This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9781845271107
- Awdur: Myrddin ap Dafydd
- Cyhoeddi Ebrill 2007
- Darluniwyd gan Robin Lawrie
- Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
- Fformat: Clawr Caled, 207x140 mm, 29 tudalen
Disgrifiad Gwales
Stori werin yn egluro sut y daeth y ddraig goch yn symbol cenedlaethol i'r Cymry.
Adolygiad Gwales
Dymar gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres i blant 79 oed syn cyflwyno straeon am hanes Cymru mewn ffordd ddifyr. Maen rhoi ffeithiau diddorol am faner y ddraig goch a beth yw ei harwyddocâd ac yn adrodd chwedl enwog Dinas Emrys ar frwydr rhwng y dreigiau ar safle caer Brenin Gwrtheyrn. Pwy oedd Myrddin Emrys, a pham ei fod yn fachgen bach mor bwysig?
Mae yma gyfuniad o stori fywiog a phopeth maer hanesydd ifanc am ei wybod am faner ei wlad. Lluniau lliw ar y naill law a stori fyrlymus ar y llall. Cyfrol sydd heb fod yn rhy lwythog o safbwynt hanesyddol dewis doeth o ran nifer y tudalennau ar gyfer oedran y darllenwyr.
Elena Gruffudd
Gwybodaeth Bellach:
Wyddoch chi mai baner Cymru yw'r faner genedlaethol hynaf yn y byd? Pam mai'r lliwiau gwyn a gwyrdd sy'n gefndir i'r ddraig goch? A beth am y ddraig goch ei hunan a pham mae hi yno? Mae'r atebion i'r cwestiynau hyn i'w cael yn y llyfr yma.
Yn ôl hen chwedl, yn oes y Brenin Gwrtheyrn, flynyddoedd maith yn ôl, y dechreuodd stori'r ddraig goch. Roedd y brenin am adeiladu castell ar fynydd yn Eryri, ond bob nos byddai rhywbeth yn dymchwel waliau'r adeilad. Ni allai holl ddynion doeth y deyrnas ddatrys y dirgelwch nes i fachgen bach gynnig ateb.