This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
ISBN: 9781845273316
Awdur: Robin Evans
Cyhoeddi Awst 2012
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Mae hanes Gwlad y Basg - Euskal Herria - a\'i phobl yn gyffrous yn ei holl amrywiaeth. Iaith y Basgiaid yw\'r hynaf yn Ewrop sy\'n parhau\'n iaith gymunedol a chenedlaethol fyw heddiw ac mae\'n bosib mai\'r Basgiaid oedd yr Ewropeaid cynharaf i gyrraedd cyfandir America.
Bywgraffiad Awdur:
Mae Robin Evans yn gyfrannwr i nifer o gylchgronau hanes gan gynnwys Cymru a’r Môr. Mae’n awdur sawl llyfr hanes gan gynnwys Adolf Hitler a’r Natsïaid (1994), Chwyldro! Chwyldro? (2004), Mewnfudwyr yng Nghymru yn ystod yr 20fed Ganrif (2007), Ffarwel i’r Grassholm Gribog: Moelfre a’r Môr (2009) a Pysgotwyr Cymru a’r Môr (2011).
Gwybodaeth Bellach:
Mae hanes Gwlad y Basg – Euskal Herria – a’i phobl yn gyffrous yn ei holl amrywiaeth. Iaith y Basgiaid yw’r hynaf yn Ewrop sy’n parhau’n iaith gymunedol a chenedlaethol fyw heddiw ac mae’n bosib mai’r Basgiaid oedd yr Ewropeaid cynharaf i gyrraedd cyfandir America.
Heddiw mae’r Basgiaid yn un o genhedloedd bychain blaengar yr Ewrop fodern yn ymfalchïo yn ei hanes, ei thraddodiadau, ei diwylliant a’i hiaith. Mae’r ffaith i’r genedl fach hon oroesi i’r unfed ganrif ar hugain, yn wyneb pwysau o gyfeiriad dwy o wladwriaethau mwyaf grymus yr oes fodern, yn arwydd o’i chymeriad arbennig. Bwriad y llyfr hwn yw olrhain hanes y genedl unigryw hon ar hyd y canrifoedd wrth iddi frwydro dros ei bodolaeth fel cenedl annibynnol.
‘Dyma hanes y Basgiaid o’r cyfnodau cynharaf hyd at ein dyddiau ni. Dim ond awdur a wnaeth waith ymchwil hir a thrwyadl allai fod wedi esbonio pethau mewn ffordd mor eglur a chytbwys, gan nodi hefyd y cysylltiadau a fu rhwng y Basgiaid â Chymru. Mae’n hanes economaidd cenedl fentrus a dyfeisgar; mae’n hanes diwylliannol cenedl sydd â’r iaith Euskara yn gonglfaen i’w hunaniaeth; ac mae’n hanes gwleidyddol cenedl a lwyddodd i oroesi o fewn dwy wladwriaeth wahanol. Adroddir digwyddiadau cyffrous a thrasig rhyfel gartref Sbaen a brwydr ETA, a hefyd datblygiadau cadarnhaol y cyfnod diweddaraf a fu’n ysbrydoliaeth i leiafrifoedd eraill Ewrop. Mae’r gynulleidfa Gymraeg mewn dyled i Robin Evans am gyfrol orchestol.’