This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Cyfrol lliwgar, ddeniadol yn llawn o ffeithiau difyr am draddodiadau dydd gŵyl Dewi. Sut ydych chi'n dathlu Dydd Gŵyl Dewi? Cawl? Cennin? Corau Meibion? Mae pob math o draddodiadau'n ymwneud â'r dydd yng Nghymru a ledled y byd, ac amryw o straeon difyr o'u cwmpas, ond tybed a wyddoch chi am y traddodiadau newydd sy'n cael eu creu heddiw?
yfrol dwt a defnyddiol sy’n olrhain dechreuadau a dathliadau Gŵyl Ddewi ar hyd yr oesoedd, yn ogystal â’n hatgoffa o rai o’r digwyddiadau pwysicaf sy’n gysylltiedig â Mawrth y cyntaf a Chymreictod, hyd at heddiw.
O ran maint, mae’r gyfrol yn hynod o hylaw. Mae ei strwythur a’i phenodau byrion a chryno’n ei gwneud hi’n hawdd i bicio i mewn ac allan ohoni fel bod amser yn caniatáu, oherwydd, fel y mwyafrif o gyfrolau o’r math yma, mae’n annhebygol y byddai rhywun yn dewis ei darllen o glawr i glawr ar un eisteddiad. Mewn gwirionedd, mae’n rhyfeddol faint o straeon a gwybodaeth mae’r gyfrol yn llwyddo i’w cyflwyno, o hanes yr eglwysi a dechrau’r dathlu, i’r wasg Gymraeg a’r Urdd, yr arwisgo, ysgolion, dathliadau’r Cymry ar wasgar, gorymdeithiau a hyd yn oed gystadleuaeth Cân i Gymru! Mae yma ôl ymchwil manwl, ond oherwydd y modd y caiff yr wybodaeth ei chyflwyno, nid yw’r testun yn llethu’r darllenydd o gwbl.
Ac mae yma farddoniaeth hefyd, yn cynnwys cerddi traddodiadol a ymddangosodd yn Cymru’r Plant yn y 1930au i gerddi mwy diweddar Gruffudd Owen, Beryl Griffiths a Nia Powell, sy’n rhoi amrywiaeth a chydbwysedd braf i’r gyfrol.
Gall fflicio’n sydyn drwyddi’n edrych ar y lluniau fod yn brofiad difyr – gyda chyfuniad o ffotograffau du a gwyn hanesyddol cymharol ffurfiol, ochr yn ochr â chartwnau a ffotograffau lliw llawn mwy modern ac anffurfiol sy’n crynhoi holl ysbryd a bwrlwm Gŵyl Ddewi, o’r eisteddfodau a’r gorymdeithiau i’r gwisgoedd a’r dathliadau hwyliog. All rhai o’r hen ffotograffau ddim peidio â chodi gwên, yn enwedig y lluniau hynny o wisgoedd traddodiadol. Yn sicr, o’m safbwynt i, bydd y llun o’r ferch fach o un o gymoedd Morgannwg yn y 1930au yn ei gwisg Gymreig hi’n aros yn y cof yn hir. Ac mae yna nifer o ffotograffau eraill sy’n corddi’r un math o emosiwn, gan danlinellu cymaint ry’n ni fel Cymry wedi esblygu dros y blynyddoedd, a throi ein gŵyl yn ddathliad cadarnhaol sy’n adlewyrchiad o’n hyder fel cenedl.
Heb os, dyma gyfrol i’w mwynhau a’i thrysori. Dyma gyfrol hefyd i’n hatgoffa mewn ffordd syml iawn o bwysigrwydd ein treftadaeth a’n Cymreictod, ac ailennyn balchder yn ein hanes a’n traddodiadau unigryw ni fel Cymry yn yr unfed ganrif ar hugain.
Sioned Lleinau
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
- ISBN: 9781845277185
- Cyhoeddi: Chwefror 2019
- Golygwyd gan Lowri Ifor
- Fformat: Clawr Meddal, 150x155 mm, 112 tudalen
|
|