This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Cyfrol yn dathlu llwyddiant nifer o deuluoedd sy'n llwyddo i drosglwyddo'r Gymraeg i genhedlaeth newydd dramor. Cawn gyfle i glywed am gyfraniad y teulu ehangach a hefyd natur cymdeithas ac arferion y wlad dramor.
Gwybodaeth Bellach:
Beth ydi hanfod iaith? Pam fod yna gymaint o emosiwn a hunaniaeth ynghlwm â hi? A’r hiraeth mewn iaith, lle mae rhywun yn dechrau dadansoddi hynny?
Beth fyddai pobl heb iaith? Dyma gyfrol sy'n mynd at wraidd y cwestiynau hyn. Cyfrol sy'n dilyn straeon deuddeg o deuluoedd sydd wedi gadael Cymru ac wedi symud i bedwar ban byd. Beth sydd gan y teuluoedd hyn oll yn gyffredin? Yn wyneb bob talcen caled, maen nhw wedi mynnu cadw fflam y Gymraeg ynghyn ar yr aelwyd. Straeon sy'n edrych ar adref, adre, adra a gytre, a sut mae iaith yn ganolog i'r synnwyr haniaethol, neu'r lle diriaethol hwnnw. Hanesion llawn profiadau, dewisiadau a gwersi, a'r rheiny oll yn rhai all adael eu hôl arnom ni, Gymry ar dir Cymru. |
|
|