This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Awdur: Jennie Thomas, J. O. Williams
- Cyhoeddi Ebrill 2006
- Darluniwyd gan Peter Fraser
- Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
- Fformat: Clawr Caled, 224 tudalen
Detholiad o oreuon cyfrolau darluniadol poblogaidd Llyfr Mawr y Plant 1, 2, 3 & 4 a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1932, 1939, 1949 & 1975; yn cynnwys straeon difyr am gymeriadau fel Wil Cwac Cwac, Siôn Blewyn Coch ac eraill, ynghyd â rhai rhigymau a phosau; addas i blant 4-7 oed. Cynhwysir dros 150 o luniau du-a-gwyn a 9 llun lliw. Cyhoeddwyd y casgliad hwn yn wreiddiol ym 1999.
Adolygiad Gwales
Er pan ddaeth plentyn i’n tŷ ni, rydw i wedi darllen pob math o lyfrau – tew a thenau, bach a mawr, fflat a fflap, tawel a swnllyd, esmwyth a chrychiog – ac mae’r plentyn wedi ei gyfareddu gan yr holl sŵn a lliw a symud. Fuo ‘na rioed y fath amrywiaeth i blant. Ei gorun a welaf rŵan wrth iddo graffu ar y lluniau.
Ond neithiwr, wrth agor Llyfr Mawr y Plant – efo llawer mwy o brint, a llai o luniau – trodd y plentyn i edrych ar fy wyneb i, a phrofiad rhyfedd oedd hynny. Roedd yn rhaid i mi wneud digonedd o stumiau ac amrywio goslef fy llais, ac roedd y bychan wrth ei fodd. Canfûm fy hun yn canfod llais i Ifan Twrci Tenau, Sioni Ceiliog Glas a Twm Tatws Oer, a daeth y pasiant amrywiol a fwynheais yn blentyn yn fyw o flaen fy llygaid. Crynswth y llyfr yw straeon Wil Cwac Cwac a hanesion Siôn Blewyn Coch. Ceir yn ogystal un ddrama, baled yr Hen Wraig a’r Mochyn, amryw o gerddi a phos neu ddau.
Profodd y Llyfr Mawr gwreiddiol ym 1931 yn llwyddiant mawr, ac fe’i dilynwyd gan dair cyfrol arall. Er mawr lawenydd i rieni Cymru, cyhoeddwyd detholiad o’r pedair cyfrol ym 1999, a hwn yw’r argraffiad diwygiedig. Nodwedd amlycaf y llyfr yw lluniau bendigedig Peter Fraser.
Anrheg penigamp i unrhyw blentyn, ac adnodd amhrisiadwy yn y dosbarth. Mae’r enwau yn gyfareddol – Siân Slei Bach, Nel Trwyn Tamp a morwyn Eban Jones, sef Leusa Gwallt Fflat. Ond yr hyn a wna’r gyfrol yn unigryw ymysg clasuron plant yw’r iaith goeth sy’n pefrio ar bob tudalen, e.e. ‘yr oedd ei ffroen hi’n denau fel papur sidan, ac yn mynd a dod o hyd fel siswrn barbar’.
Pan mae plant yn sugno iaith fel llo ar lwgu, darllenwch y storïau hyn iddynt, a pheidiwch â synnu o weld pob llygad wedi ei hoelio arnoch .
Angharad Tomos