This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Llyfrau Hanes Byw: Cerdded Lerpwl y Cymry
- ISBN: 9781845279431
- Gari Wyn
- Cyhoeddi: Mawrth 2024
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 150 tudalen
Mae'r dyn busnes a'r darlledwr Gari Wyn wedi ymddiddori yn hanes y Cymry yn Lerpwl ers degawdau. Gyda'i gefndir fel athro hanes, a'i ddawn i gyflwyno straeon yn ddifyr, mae'i deithiau cyson sy'n mynd â llond bys ar y tro o ogledd Cymru i Lerpwl, yn brawf o'i boblogrwydd fel cyflwynydd. Dyma bedair taith ganddo o gwmpas y ddinas.
Gwybodaeth Bellach:
O stryd i stryd, yn cynnwys lluniau heddiw, mapiau a hen luniau perthnasol, dyma gerdded drwy hanes bywyd Cymraeg Lerpwl 18801939 yn bennaf.
Cawn gip ar straeon llwyddiannus masnachwyr, arloeswyr, cyhoeddwyr, gwleidyddion a gweinidogion. Cawn weld sut y bu sawl tro ar fyd ar fywyd Cymreig y ddinas ond eto cawn weld beth oedd cyfraniad sylweddol y bywyd hwnnw mewn sawl maes:
argraffwyr, cyhoeddwyr, cyhoeddiadau a siopau llyfrau Cymraeg
cofnodwyr mewn celf o John Thomas y ffotograffydd i Frank Green yr arlunydd
adeiladwyr, seiri, penseiri ac ol eu gwaith
masnachwyr a siopwyr
capeli Cymraeg, pregethwyr, diwygwyr, cemhadon, heddychwyr
gwleidyddion, arweinwyr Cymru Fydd, sefydlu'r Sul Cymreig
5 Aelwyd yr Urdd Lerpwl; Eisteddfodau lleol a Chenedlaethol
mudiad y Wladfa a hanes y Mimosa
doctoriaid a meddygaeth
morwriaeth, coloneiddwyr, masnach y Byd Newydd; caethwasiaeth ar Ymerodraeth Brydeinig
y Welsh Basin, y docwyr, y Welsh Navy a chwmniau eraill
mynwentydd, cerrig beddau y Cymry nodedig, placiau ar dai
Tryweryn a Neuadd y Dre
Dyma gyfrol sy'n cyflwyno canrifoedd o hanes gweladwyr Cymry yn y ddinas ar hyd milltiroedd o strydoedd Lerpwl, fel y maen nhw heddiw. Cyfrol gyntaf cyfres newydd o gyfrolau hanes: Llyfrau Hanes Byw 1.