This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Ci bach annwyl Elen a Gareth ydy Madog. Mae Madog yn hoffi bwyta, rhedeg ar ol pel yn yr ardd, a chysgu yn yr haul.
Mae Madog yn mynd efo Elen a Gareth i barti pen-blwydd Mrs Jones yn 80 oed. Mae llawer o bobol yn y parti - pawb wedi dwad i ddathlu a mwynhau. Mae Madog isio bod yn rhan o'r hwyl i gyd, ac mae o'n gi bach da ... fel arfer!
Bywgraffiad Awdur:
Tiwtor Cymraeg ydy Branwen Glyn. Mae hi'n byw yng Nghaernarfon, ond yn dŵad o Dremadog yn wreiddiol. Mae hi'n hoffi Tremadog yn fawr iawn - mae cŵn bach annwyl yn byw yno, a phobol ddiddorol, a llefydd bendigedig i fynd am dro.
- ISBN: 9781845279721
- Awdur: Branwen Glyn
- Cyhoeddi: Awst 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 209x148 mm, 48 tudalen