This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Pobol Drws Nesa - Taith Fusneslyd drwy Iwerddon

  • £4.25
  • £8.50
  • ISBN: 9781845271879
  • Awdur: Ioan Roberts
  • Cyhoeddi Tachwedd 2008
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Argraffiadau ac anecdotau o adnabyddiaeth a theithiau'r awdur â'r Iwerddon am dros 40 mlynedd. Sail y gyfrol hon yw gwibdaith o amgylch yr ynys yn hydref 2007 lle bu'n ymweld â hen ffrindiau a chyfarfod rhai newydd. Prociodd hynny ei gof am deithiau blaenorol, a chawn gipolwg ar rai o newidiadau economaidd a gwleidyddol y degawdau diwethaf.

Gwybodaeth Bellach:
Argraffiadau ac anecdotau o adnabyddiaeth a theithiau'r awdur â'r ynys am dros 40 mlynedd.

Fyth er pan gyrhaeddodd bentref Baile an Fhéirtaraigh 'wysg ei din mewn Cortina' yn 1969, mae Ioan Roberts yn dioddef pyliau o'r Frech Werdd.

Yr unig feddyginiaeth i'r clwy yw ymweld ag Iwerddon sawl gwaith y flwyddyn i godi'r galon. Llwyddodd i wneud hynny, weithiau ar ei wyliau, dro arall yn ei waith fel newyddiadurwr.

Gyda'r hawl i fusnesu sy'n dod yn sgil y swydd honno, daeth i adnabod y wlad â'i phobol bron gystal â'i brodorion.

Sail y gyfrol hon yw gwibdaith o amgylch yr ynys yn hydref 2007 lle bu'n ymweld â hen ffrindiau a chyfarfod rhai newydd. Prociodd hynny ei gof am deithiau blaenorol, a chawn gipolwg ar rai o newidiadau economaidd a gwleidyddol y degawdau diwethaf.

O hen dawelwch Kerry i heddwch newydd Belfast, o yfed hwyrol gyda Bertie Ahern i atgofion Cymro cant oed am Wrthryfel 1916, cawn straeon dwys a doniol sy'n ein helpu i ddeall ein cymdogion agosaf ychydig yn well.