This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Pysgotwyr Cymru a\'r Môr

  • £12.00
  • £0.00
  • ISBN: 9781845273293
  • Cyhoeddi Awst 2011
  • Golygwyd gan Robin Evans
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Bu pysgota môr yn rhan hanfodol o fywyd trigolion arfordir Cymru dros y canrifoedd, o gynnal economi syml i gynnig gwaith ac incwm ar raddfa fasnachol. Roedd sawl agwedd i\'r diwydiant pysgota - y dulliau o ddal amrywiaeth o bysgod, y cychod a\'r offer, a\'r amrywiol ffyrdd o storio\'r pysgod a\'u gwerthu.

Bywgraffiad Awdur:
Robin Evans yw cadeirydd MOROL (Sefydliad Astudiaethau Hanes Morwrol Cymru) ac mae’n gyfrannwr cyson i nifer o gylchgronau hanes gan gynnwys Cymru a’r Môr. Mae’n awdur sawl llyfr hanes gan gynnwys Adolf Hitler a’r Natsiaid (1994), Chwyldro! Chwyldro? (2004), Mewnfudwyr yng Nghymru yn ystod yr 20fed Ganrif (2007) a Ffarwel i’r Grassholm Gribog: Moelfre a’r Môr (2009).

Gwybodaeth Bellach:
Bwriad y llyfr hwn yw cyflwyno hanes pysgota’r môr yng Nghymru i’r darllenydd cyffredin a hynny am y tro cyntaf yn y Gymraeg. Mae’n cynnwys amrywiol erthyglau sydd wedi ymddangos mewn gwahanol gyhoeddiadau dros y blynyddoedd ynghyd ag ysgrifau sydd yn torri tir newydd, yng Nghymru o leiaf, gan gynnwys natur cymunedau pysgota a hanes merched mewn cymunedau morwrol.