This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Y Sgwarnog Aur
- ISBN: 9781845279332
- Paddy Donnelly
- Cyhoeddi: Chwefror 2025
- Addaswyd/Cyfieithwyd gan Elen Williams
- Fformat: Clawr Meddal, 260x215 mm, 32 tudalen
Cyfrol llun a stori 32 tudalen wedi ei haddasu gan Elen Williams.
Adolygiad Dylan Ebenezer
Bydd yr haf yma yn un anferth i chwaraeon merched wrth i dimau rhyngwladol ac unigolion o Gymru gystadlu ar y lefel uchaf. Mae’r tîm pêl-droed ar y ffordd i Euro 2025 – y tro cyntaf erioed iddyn nhw chwarae mewn prif gystadleuaeth. Tîm rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd. Gornest fawr o bosib hefyd i’r bocsiwr Lauren Price yng Nghaerdydd. Haf a hanner.
Mae’r gyfrol hon yn gymar perffaith ar gyfer yr hyn sydd i ddod – ond yn fwy na hynny yn cofnodi’r hanes a’r heriau mae’r merched a menywod wedi gorfod brwydro yn eu herbyn dros y blynyddoedd.
Mae’r enwau a’r campau cyfarwydd yma, ond hefyd y rhai llai adnabyddus. O ran y cyfarwydd – mae’r adran am bêl-droed a’r rygbi yn swmpus ac yn llawn ffeithiau am yr enwau mawr sydd wedi arloesi yn y gêm. Ond mae yna hefyd hanes pwysig sy’n ein hatgoffa ni o’r rhagfarn sydd wedi bodoli yn erbyn chwaraeon menywod. Cafodd pêl-droed menywod ei wahardd am dros hanner canrif, er enghraifft. Ffaith ryfeddol sydd hefyd yn gwbl gywilyddus.
Ond efallai mai’r enwau anghyfarwydd sydd yn eich taro fwyaf. O’r Gymraes gyntaf i ennill aur yn y Gemau Olympaidd i’r person cyntaf (dyn neu ddynes) i nofio ar draws Môr Hafren.
Mae hanes beicio hefyd yn drawiadol – yn enwedig datblygiad y beiciau eu hunain. Dwi ddim yn credu bydden ni wedi llwyddo mynd yn bell iawn ar yr hen Peni-Ffardding! Mae yna bennod hyfryd am y Campau Cefn Gwlad, Llyn a Môr – sy’n cynnwys hanes tîm tynnu rhaff Mydroilyn yn ogystal â dwy sydd wedi cael llwyddiant mawr tra'n cneifio. Mae’r nodiadau o ran y geirfa yn help mawr hefyd – hyd yn oed i’r rheiny ohonom sy’n meddwl ein bod yn deall y gwahanol gampau. Mae wastad mwy i’w ddysgu!
Daw’r lluniau go iawn a’r hanes yn fyw ac maen nhw’n plethu’n dda gyda’r darluniau lliwgar. Mae hi’n gyfrol fach sy’n bosib ei darllen mewn un cynnig ond hefyd yn taro chi fel rhywbeth y byddwch yn troi yn ôl ati yn gyson hefyd.
Rwy’n gweithio llawer ar bêl-droed menywod ac yn trafod sefyllfa’r campau yn aml gyda rheiny o fewn o gêm. Yr hyn sy’n taro chi’n yw bod y rhan fwyaf o’r menywod eisiau siarad am y gêm neu’r digwyddiad yn unig. Maen nhw yn hapus i fod yn llysgenhadon ond dim eu dewis nhw oedd hynny. Na’i gyd oedd pawb eisiau gwneud oedd mwynhau chwaraeon.
Ond, doedd hi ddim mor hawdd â hynny.
Mae’n amhosib peidio gweld bod unrhyw lwyddiant yn gam mawr arall ymlaen yn natblygiad campau’r menywod. Mae pob buddugoliaeth fach yn rhan o’r darlun mawr. Boed hynny’n deg neu beidio – mae yna bwysau ar bawb i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a hyrwyddo eu camp ar bob achlysur.
Daw’r dydd pan na fydd angen gwneud hynny. Byddwn ni yno yn trafod y gêm – y canlyniad – a dim byd arall. Dyna pryd fyddwn yn gwybod bod chwaraeon menywod yn gyfartal â champau’r dynion.
Yn y cyfamser mae cyfrol fel hon yn bwysig dros ben.