Golwg Sydyn Bargen Loading... Dyddie Da- Atgofion drwy Ganeuon: £7.99 - £-7.99 Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da ISBN: 9781845277000 Delwyn Siôn Cyhoeddi: Awst 2024 Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 132 tudalen Y diweddaraf yng nghyfres boblogaidd Atgofion drwy Ganeuon, Gwasg Carreg Gwalch. Cawn ddilyn yn ôl troed y gyfres hon gan ganfod goleuni ar gynnyrch ac awen y canwr a'r cyfansoddwr unigryw, Delwyn Siôn. Gwybodaeth Bellach: ‘Pe bawn i’n gallu dweud wrth Dat-cu ...’Dyna linell gyntaf y garol ‘Un Seren’. A dyna le da i ddechrau ar daith atgofion y gyfrol hon gan Delwyn Siôn. Yn ei eiriau ei hun,‘“Bûm yn hir yn sad gysidro,” medd yr hen bennill. Ac yn wir i chi, dyna oedd fy hanes wrth ystyried ysgrifennu’r llyfr hwn. Gwrthod y cynnig wnes i’n wreiddiol, ond yna mi gytunais, a hynny, yn fwy na dim, er mwyn cael rhoi peth o hanes fy nheulu ar gof a chadw.’Cawn, cawn fwy o hanes ‘Dat-cu’ a llawer mwy o'i deulu yn ‘Sweet 'Berdâr’ a Chwm Nedd, o'i gefnder enwog i'w gyfeillion ysgol, myfyrwyr Aber, Hergest, Omega a Mynediad am Ddim, criw Theatr Genedlaethol yr Urdd a helyntion amrywiol Côr Aelwyd Cwm-Rhyd-y-Chwadods! Mae yna eiliadau doniol ac eiliadau trist, a thrwy'r cyfan, mae cynhesrwydd yn y cariad sydd yma at ei fro ac at sawl cenhedlaeth o’i deulu.Mi gawn gofio eto am gyfoeth y cwm a’r colier, y caledi a’r canu, ‘Gyda mwgyn a mwffler a mynyffarni …Felly, diolch am rannu’r daith, Delwyn – mi roedden nhw’n ‘ddyddie da’. Default Title - £7.99 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Dyddie Da- Atgofion drwy Ganeuon: £7.99