Golwg Sydyn Bargen Loading... Heli yn ein Gwaed - Pysgotwyr Llyn £8.00 £0.00 - £-8.00 ISBN: 9781845273514 Dewi Alun Hughes Cyhoeddi Ebrill 2014 Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm Bu pysgota yn fwy na diwydiant ar Benrhyn Llyn ers canrifoedd - bu\'n ffordd o fyw. Fesul un, mae\'r pysgotwyr hynny fu\'n ennill eu bara menyn o\'r môr yn diflannu, ac yn eu sgil yr arferion, y crefftau a\'r eirfa sy\'n unigryw i\'r ardal odidog hon. Diflannu hefyd mae enwau\'r hen bysgotwyr ar bob cilfach a chraig o amgylch arfordir y penrhyn.Bywgraffiad Awdur:Magwyd Dewi Alun Huws ym mhentref Rhiw. Fel ei dad o’i flaen, bu ynghlwm â hwylio a physgota am ran helaeth o’i fywyd gan gyfuno hynny â gyrfa hir yn y diwydiant teledu. Yn ei gwch rasio She of Lleyn bu iddo gystadlu mewn rasys ym Mhrydain yn ogystal â’r ochr arall i’r byd yn Nhasmania, ond ei bleser mwyaf oedd rasio ei gwch traddodiadol Y Wylan ym mae Aberdaron.Gwybodaeth Bellach:Mae’r gyfrol hon yn seiliedig ar ffilm a gynhyrchwyd ar gyfer Partneriaeth Tirlun Llŷn i roi ar gof a chadw rai o’r cymeriadau unigryw yma − ac i greu portread o ddiwydiant a’u clymodd i’r môr. Default Title - £8.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa View all details Heli yn ein Gwaed - Pysgotwyr Llyn £8.00