- Merch o'r Wlad
- ISBN: 9781845275693
- Doreen Lewis
- Cyhoeddi Tachwedd 2018
- Golygwyd gan Lyn Ebenezer
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 122 tudalen
Yn ddiweddar cyrhaeddodd Doreen Lewis, y ffermwraig a'r gantores o Ddyffryn Aeron, ddwy garreg filltir. Daeth i oedran pensiwn, gan ddathlu hefyd hanner can mlynedd o berfformio ar lwyfannau Cymru a thu hwnt. Dyma gyfrol gynnes o'i hatgofion drwy ei chaneuon.
Gwybodaeth Bellach:
Roedd Doreen yng nghanol berw diwygiad canu pop y chwedegau. Ac yn wahanol ir rhelyw oi chyd-oeswyr cerddorol, mae hin dal i berfformio. Llwyr enillodd yr hawl i gael ei disgrifio fel Brenhines Canu Gwlad. Hi ywr unig ferch yn hanes y byd canu pop Cymraeg iw chyflwyno â disg aur am ei chyfraniad oes i adloniant.
Nid stori cantores canu gwlad yn unig yw stori Doreen o bell ffordd. Fel y crwt na chafodd ei rhieni, dysgwyd hi i ymgymryd â phob agwedd o waith fferm yn cynnwys cario bêls, godro a hyd yn oed godi waliau sych. Bu hynnyn fodd iddi gadwi thraed yn solet ar y ddaear.
Drwy Doreen cawn ddarlun byw a chytbwys o ddau fyd y gantores ar ffermwraig ynghyd âi chariad angerddol at y ddau fyd hwnnw ai hymlyniad at fro a theulu. Cymeriad Doreen ei hun yw cnewyllyn y gyfrol, ei hagwedd ddi-lol a di-drimins, ei hanes yn blentyn, yn ferch ifanc, yn fam a mam-gu gyffredin ond ei bod hi, mewn gwirionedd, yn ferch anghyffredin. Boed gitâr yn ei dwylo neu bâr o welingtons am ei choesau, Doreen yw Doreen.