- ISBN: 9781845272319
- Cyhoeddi Gorffennaf 2009
- Golygwyd gan E. Wyn James, Bill Jones
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 222 tudalen
Cyfrol sy'n dathlu bywyd sylfaenydd y Wladfa a'r cenedlaetholwr, Michael D. Jones. Mae epig sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn 1865 yn un o'r penodau enwocaf yn hanes y Gymru fodern. 'Tad y Wladfa' ar lawer ystyr oedd Michael D. Jones, Prifathro Coleg yr Annibynwyr yn y Bala.
Bywgraffiad Awdur:
Dr E. Wyn James a Dr Bill Jones yw cyd-gyfarwyddwyr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Prifysgol Caerdydd, sydd yn hybu astudio hanes Cymry yn yr Americas. Am fwy o wybodaeth ewch i www.caerdydd.ac.uk/cymraeg/subsites/welshamericanstudies/index.html
Mae Dr Wyn James yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg a Dr Bill Jones yn ddarlithydd yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Caerdydd.
Mae’r ddau wedi cyfrannu at y gyfrol yn ogystal â’i golygu, a’r cyfranwyr eraill yw’r diweddar Alun Davies, Robert Owen Jones, y diweddar
R. Tudur Jones a Dafydd Tudur.
Gwybodaeth Bellach:
Mae epig sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn 1865 yn un o’r penodau enwocaf yn hanes y Gymru fodern. ‘Tad y Wladfa’ ar lawer ystyr oedd Michael D. Jones, Prifathro Coleg yr Annibynwyr yn y Bala. Yn ôl Gwenallt ef oedd ‘Cymro pennaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg; y cenedlaetholwr mwyaf ar ôl Owain Glyndŵr’.
Bu Michael D. Jones yn ddylanwad pwysig eithriadol ar bobl megis Emrys ap Iwan ac O.M. Edwards. Yr oedd hefyd yn ffigur dadleuol a dadleugar, fel y gwelwn yn achos helynt enwog ‘Brwydr y Ddau Gyfansoddiad’, a esgorodd yn y diwedd ar Goleg Bala-Bangor. Ond er mor bwysig ydyw yn hanes diweddar Cymru, y mae wedi ei esgeuluso braidd, o’i gymharu â ffigurau eraill yn hanes y mudiad cenedlaethol.
Mae’r gyfrol hon yn ymgais i wneud iawn am yr esgeulustod hwnnw. Ynddi cawn gyflwyniadau i wahanol agweddau ar fywyd a gwaith Michael D. Jones ei hun, i gyfanrwydd ei weledigaeth genedlaethol, ac i weithgarwch ei gefnogwyr. Ynddi hefyd gawn benodau am y Wladfa ym Mhatagonia – nid am hanes y Wladfa fel y cyfryw, ond yn hytrach am gefndir a hanes ei sefydlu, y dadleuon o’i phlaid ac yn ei herbyn, a’i lle yn hanes ymfudo’r Cymry yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg – a hynny oll yng nghyd-destun gwaith a gweledigaeth un o Gymry mwyaf nodedig y cyfnod modern.
‘Hyd at heddiw’, meddai Saunders Lewis yn 1962, ‘mae’n diffyg ni o ymwybyddiaeth cenedl, ein hamddifadrwydd ni o falchter cenedl, yn rhwystro inni amgyffred arwyddocâd ac arwriaeth yr antur ym Mhatagonia.’ Diben y gyfrol hon yw edrych o’r newydd ar arwyddocâd yr antur honno, ac arwyddocâd bywyd a gwaith ‘tad’ yr antur, Michael D. Jones, i’n bywyd cenedlaethol.