- Llwybrau'r Ddawns
- ISBN: 9781845279172
- Cyhoeddi: Gorffennaf 2023
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 250 tudalen
Cyfrol gynhwysfawr yn archwilio hanes a thraddodiadau'r ddawns werin yng Nghymru; yn seiliedig ar waith ymchwil estynedig y diweddar Alice Williams ac Eiry Palfrey.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Llwybrau'r Ddawns yn archwilio hanes a chefndir dawnsio gwerin ledled Cymru, drwy ymweld â phob ardal yn unigol mewn 'llwybrau'. Gwnaed yr ymchwil gwreiddiol gan y diweddar Alice Williams, oedd yn arbenigwr ar y ddawns werin Gymreig, ai gwblhau gan Eiry Palfrey, Llywydd presennol y Gymdeithas.
Medd Eiry: 'Bu Alice Eileen Williams farw ar Awst 3ydd 2020, ychydig ddyddiau cyn ei phen blwydd yn 95. Rai blynyddoedd cyn hynny, pan oeddwn yn olygydd Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, cyflwynodd Alice sgerbwd o'r llyfr hwn i mi ac er parch ac edmygedd tuag ati bûm wrth trwy gyfnod tywyll Covid yn golygu, ychwanegu, ymchwilio ac ehangu'r drysorfa hon o wybodaeth am y ddawns werin Gymreig.
Nid llyfr ysgolheigaidd na llawlyfr dawnsio gwerin sydd yma ond casgliad o bytiau difyr am y ddawns werin ac ambell chwedl werin, fyddai o ddiddordeb i'r rhai sydd am wybod mwy am gefndir y traddodiad.'