Golwg Sydyn Bargen Loading... Cofio'r Wylfa £8.50 £0.00 - £-8.50 Yr Wylfa a'i Haelwydydd ISBN: 9781845277901 Emlyn Richards Cyhoeddi: Ebrill 2021 Darluniwyd gan Wil Rowlands Fformat: Clawr Meddal, 210 x 148 mm, 150 tudalen Hanes ardal y Wylfa a'i thrigolion. Canolbwyntio ar y cartrefi a gollwyd a'r teuluoedd a ddadwreiddwyd wrth adeiladu'r atomfa a wna'r Parchedig Emlyn Richards, meistr ar adrodd straeon pobol ac un a ymgyrchodd yn erbyn yr atomfa.Gwybodaeth Bellach: Difethwyd safleoedd archaeolegol; baeddwyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardal Cadwraeth Arbennig sydd o bwys rhyngwladol.Cefnodd y cwmni Hitachi ar y prosiect £20 biliwn ym Medi 2020. O leiaf osgowyd y perygl gwirioneddol o drychineb niwclear ar y safle ar ben popeth arall.Canolbwyntio ar y cartrefi a gollwyd a'r teuluoedd a ddadwreiddwyd y mae'r gyfrol hon. Hanes pobol sydd yma gan feistr ar adrodd straeon pobol. Ymgyrchodd y Parchg Emlyn Richards hefyd yn lew yn erbyn yr atomfa. Er llwyddiant yr ymgyrch honno, roedd yn rhy hwyr i arbed dileu'r gymuned oedd ar y tir hwnnw. Bro goll fel Cwm Elan, Claerwen, Llanwddyn, Epynt a Thryweryn yw'r Wylfa heddiw.Ond dyma ddeunydd a all ysbrydoli ymgyrch y gr?p 'Wylfa Ni' a'i gefnogwyr i ailfeddiannu'r safle a grymuso'r gymuned leol gyda datblygiad cynaliadwy. Cyflwynedig i bobol Cemaes Ddoe a Heddiw Default Title - £8.50 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Cofio'r Wylfa £8.50