- David Vaughan Thomas
- ISBN: 9781845279141
- Eric Jones Cyhoeddi: Mai 2023
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 250 tudalen
David Vaughan Thomas oedd cerddor amlycaf a mwyaf dylanwadol Cymru yn ystod degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif wrth iddo ymdrechu i symud ei wlad ymlaen o dueddiadau ceidwadol cyfansoddwyr a pherfformwyr oes Victoria.
Bywgraffiad Awdur:
ERIC JONES Wedi ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais, addysgwyd Eric Jones yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Treg?yr, cyn ennill gradd ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd, a maes o law gradd ymchwil o'r Brifysgol Agored.
Yn ystod ei yrfa ym myd addysg bun Bennaeth y Celfyddydau Creadigol yn Ysgol Mynyddbach (Abertawe); yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun G?yr (Abertawe); ac yn Brifathro ar Ysgol Bro Myrddin (Caerfyrddin), gan ymddeol yn 2006.
Fel cyfansoddwr cyhoeddodd saith cyfrol o ganeuon ynghyd â nifer sylweddol o ddarnau corawl, gweithiau cysegredig a cherddoriaeth ar gyfer y theatr. Ysgrifennodd gofiant (Maestro) ir arweinydd corawl, Noel Davies, ynghyd â chyfrol o hanes Côr Meibion Pontarddulais (Brothers Sing On).
Gwybodaeth Bellach:
Yn dilyn ei addysg yn Rhydychen, a'i gyfnod fel athro yn Ysgol Harrow, daeth i adnabod cerddorion Seisnig o fri fel Percy Buck, Hubert Parry, Granville Bantock, Edward Elgar a Henry Walford Davies. Gyda llwyddiant ei weithiau cynnar, y disgwyl oedd y byddai'n ymuno â'r garfan yma o gyfansoddwyr yn Lloegr. Ond roedd Cymru'n galw'r g?r unigryw hwn â'i wreiddiau yn ddwfn yn hanes, iaith a diwylliant ei famwlad. Ar ganmlwyddiant a hanner geni Vaughan Thomas yn 2023, y cyfansoddwr, Eric Jones, sy'n olrhain hanes ei fywyd a'i waith, ac yn cloriannu o'r newydd ei gyfansoddiadau cerddorol. Gosodir hanes Thomas ei hun mewn cyd-destun ehangach o ddatblygiadau diwylliannol, addysgiadol a gwleidyddol ei gyfnod yng Nghymru. Cawn ddarllen am ei gysylltiad gyda rhai o gewri'r genedl mewn gwahanol feysydd yn ogystal â cherddoriaeth - llenorion fel Gwili a T Gwynn Jones; addysgwyr fel Lewis Jones Roberts ac Owen M Edwards; gwleidyddion megis Henry Jones, Y Barwn Davies, Llandinam a David Lloyd George.
Er ei statws digamsyniol ymhlith ei gydwladwyr, profodd Vaughan Thomas densiynau a thristwch hefyd yn deillio o anghydfod rhyfeddol yn hanes Prifysgol Cymru, a arweiniodd yn y pen draw at ddigalondid a gorffwylltra'r cerddor amryddawn a deallusol hwn.