- ISBN: 9781845274313
- Gwen Pritchard Jones
- Cyhoeddi Gorffennaf 2014
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Nofel gyfoes sy\'n plethu hiwmor deifiol â chwedlau a straeon traddodiadol Cymru. Doedd Dyfrig ddim yn siŵr iawn beth i\'w ddisgwyl pan gafodd ei dderbyn fel cystadleuydd ar raglen realaeth i ddewis sgriptwyr ar gyfer ffilm am hanes Cymru. Chwe wythnos yng nghwmni dieithriaid, heb gyswllt â\'r byd y tu allan, yn cael ei ffilmio gydol yr amser ...
Bywgraffiad Awdur:
Un o Dalysarn, Dyffryn Nantlle yw Gwen Pritchard Jones. Mae bellach yn byw ym Mhantglas, Eifionydd. Bu’n gweithio mewn sawl maes ond bellach mae’n awdur llawn amser. Enillodd ei nofel gyntaf, Dygwyl Eneidiau, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Abertawe a’r Fro 2006. Cyhoeddwyd ei dwy nofel ddiwethaf, Pieta a Barato, gan Wasg y Bwthyn.
Gwybodaeth Bellach:
Doedd Dyfrig ddim yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl pan gafodd ei dderbyn fel cystadleuydd ar raglen realaeth i ddewis sgriptwyr ar gyfer ffilm am hanes Cymru. Chwe wythnos yng nghwmni dieithriaid, heb gyswllt â’r byd y tu allan, yn cael ei ffilmio gydol yr amser – beth yn y byd wnaeth iddo gytuno i fod yn rhan o’r fath brosiect? A pham yr holl ddirgelwch? Neb yn cael ei enwi, a’r daith dywyll i leoliad dirgel ... Yr unig beth a’i cadwai rhag troi ar ei sawdl oedd y ferch odidog a sylwodd arni cyn esgyn i’r bws.
Roedd y cyfarwyddwr teledu enigmatig Gwydion ap Don, ar y llaw arall, yn gwybod yn union beth oedd o flaen Dyfrig ...
\'... dyma nofel fydd yn eich cadw’n darllen tan yr oriau mân\'
Catrin Beard, am Barato, Gwales.com.