Golwg Sydyn Bargen Loading... Straeon Gwil Plas £7.50 £0.00 - £-7.50 ISBN: 9781845273453 Gwilym Griffith Cyhoeddi Tachwedd 2011 Golygwyd gan Ioan Roberts Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm Ffarmwr, gwerthwr wyau, actor, canwr, adroddwr, cynhyrchydd dramâu, arweinydd corau, cymanfaoedd a nosweithiau llawen ... prin iawn ydi\'r bobl sydd wedi cyfuno cymaint o weithgareddau yn ystod ei oes â Gwilym Griffith, Llwyndyrys. Mae hiwmor a hynawsedd yr awdur yn pefrio ar bob tudalen, a\'r portread cynnes o gymuned fywiog sydd \'yma o hyd\'.Gwybodaeth Bellach;Cawn ddysgu rhywfaint o gyfrinach y cwmni rhyfeddol hwn, a fu’n swyno cynulleidfaoedd o Lŷn i Drelew. Nid cofnod catalogaidd sydd yma ond hanesion difyr gan storïwr greddfol a ffraeth. Mae’n rhoi cipolwg ar ymroddiad a theyrngarwch y cwmni wrth iddyn nhw ddatblygu eu crefft gyda chefnogaeth pobl fel Charles Williams a John Gwilym Jones. Cawn glywed am y tynnu coes a’r troeon trwstan, fel yr adeg pan gafodd y cerbyd oedd yn cario’u set trwy Gaerdydd ei gamgymryd am gyflenwyr arfau yr IRA.Mae straeon teuluol yr awdur hefyd yn llawn drama, fel hanes ei dad yn dianc o’i gartref i ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. A chawn enghreifftiau lu o ffraethineb unigryw cymdeithas y chwareli ithfaen yn ogystal â gwreiddioldeb hen ŷd y wlad. Default Title - £7.50 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa View all details Straeon Gwil Plas £7.50