This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Stori Cymru - Baledi a Hanesion

  • £12.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845275167
  • Myrddin ap Dafydd
  • Cyhoeddi Mawrth 2015
  • Darluniwyd gan Dorry Spikes
  • Fformat: Clawr Caled, 218x218 mm, 168 tudalen
Mae hanes Cymru yn llawn straeon. Straeon doniol, trist, cyffrous, arwrol a hudolus. Eto un stori yw hi, mewn gwirionedd. O oes i oes, o fro i fro, gallwn weld yr un un stori drachefn a thrachefn drwy Gymru gyfan gan glymu\'r cymoedd a\'r dyffrynnoedd i gyd yn un wlad: gelyn yn ymosod; y Cymry yn gwrthsefyll ac yn y diwedd yn goroesi.

Gwybodaeth Bellach:
Mae hanes Cymru yn llawn straeon. Straeon doniol, trist, cyffrous, arwrol a hudolus. Eto un stori yw hi, mewn gwirionedd. O oes i oes, o fro i fro, gallwn weld yr un un stori drachefn a thrachefn drwy Gymru gyfan gan glymu’r cymoedd a’r dyffrynnoedd i gyd yn un wlad: gelyn yn ymosod; y Cymry yn gwrthsefyll ac yn y diwedd yn goroesi. Bu’r Rhufeiniaid, y Sacsoniaid, y Llychlynwyr, y Normaniaid a’r Prydeinwyr yn ceisio’n sgwario a’n creu yn dalaith ymylol i’w hymerodraethau mwy. Ond rydan ni yma’n annibynnol o hyd, ac yn adrodd yr hanes gyda balchder.
Er ein bod yn wlad unedig drwy hyn i gyd, gallwn hefyd ddathlu’r gwahanol benodau bychain o fewn yr hanes mawr. Mae gan bob mynydd a llyn, castell a llan ei chwedl a’i hanesyn. Adrodd straeon y cyrion sy’n rhoi calon i wlad.
Mae’r baledi hyn yn mynd â ni i bob cwr o Gymru, yn dathlu’r holl gyfoeth amrywiol ac yn gweu’r cyfan yn un gyfrol.