This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cofion

  • £20.00
  • Cofion
  • Rhodri Jones
  • ISBN: 9781845246051
  • Cyhoeddi: Medi 2024
  • Fformat: Clawr Caled, 200x164 mm, 108 tudalen

Ysgolhaig clasurol ac archeolegydd a gydnabyddid yn gydwladol ac a fu'n lladmerydd egnïol i'w bwnc yng Nghymru oedd John Ellis Jones (1929-2023). Mae ei fab, Rhodri Ellis Jones, yn ffotograffydd sydd wedi arddangos ei waith yn rhai o orielau amlycaf y byd ac yn byw yn Bologna yn yr Eidal ers 2000. Creodd y gyfrol hon i drysori rhai o'i atgofion am ei dad.

Gwybodaeth Bellach:
Mae yma atgofion teuluol am ei fagwraeth yn Llanrwst ac am ei fam - oedd o Lwcsembwrg yn wreiddiol ac a gafodd ei magu yn yr Almaen Natsïaidd cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Craidd y gyfrol ydi un genhedlaeth yn talu teyrnged i'r fagwraeth a'r gynhysgaeth a gafwyd gan y genhedlaeth flaenorol. Mae yma hefyd ymdriniaeth â galar, ac un o ddulliau Rhodri o gofio yw'r lluniau yn ei gamera.
Mae'r gyfrol yn cynnwys dyfyniadau o waith Iwan Llwyd, Steve Eaves, Dylan Thomas, John V. Morris a darnau creadigol gan Angharad Price a Manon Steffan Ros. Dyluniwyd gan Emanuele Lamedica.