This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Ochr Treforys i'r Dre (Atgofion drwy Ganeuon)

  • £8.00
  • £0.00
  • Ochr Treforys i'r Dre
  • ISBN: 9781845277727
  • Neil Rosser
  • Cyhoeddi Medi 2020
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 132 tudalen

Prin bod neb wedi gwneud mwy i hybu delwedd Gymraeg a Chymreig ardal Abertawe na Neil Rosser. Maen frogarwr ir carn. Yn gyfansoddwr ac yn aelod o wahanol fandiau, maer gân Ochr Treforys or Dre yn anthem atgofus iw fro.

Bywgraffiad Awdur: Ganwyd Neil yng Ngelli Fedw, gyda'i dad Syr Mel Rosser er ei fod wedi'i eni i deulu tlawd, wedi cyrraedd entrychion y Gwasanaeth Sifil. Yn aelod o deulu o gapelwyr pybyr oi blentyndod yn Ebenezer, Gelli Fedw, disgrifia Neil ei grefydd heddiw fel y Swans!

Addysgwyd Neil yn Ysgol Lôn Las, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Choleg Prifysgol Aberystwyth, lle cychwynnodd ar ei yrfa gerddorol. Bun gweithio i amrywiol gwmnïau yn cynnwys Ideal Bakery, Osram Lamps a Laura Ashley cyn cymhwysoi hun yn athro. Mae'r cefndir cyfoethog yn cyfrannu at naws barddoniaeth bob dydd ei ganeuon.

Mae ganddo ddau fab annwyl, sef Gwyn ac Aled, ac maen lwcus iawn i fod yn briod ag Eldeg y ferch o Port.