This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Yr Hen Ddyddiadau

  • £3.00
  • £9.50
  • ISBN: 978184273484
  • John Pierce Jones
  • Cyhoeddi: Tachwedd 2015
  • Fformat: Clawr meddal, 215x138mm, 260 tudalen

Hunangofiant yn adrodd hanes John Pierce Jones yn blentyn yn ardal wledig Niwbwrth, Sir Fôn, a\'r newid byd a ddaeth i\'w ran wrth i\'w fam ail-briodi a symud y teulu i gyffiniau Llundain pan oedd John yn 12 oed.

Daeth yn ôl i Gymru wedi gadael yr ysgol ac ymaelodi â\'r heddlu gan ddilyn yn ôl troed ewythr iddo. Wedi dechrau ar ei yrfa yn Nolgellau, penderfynodd nad oedd yn hapus, ac aeth i\'r coleg.  Roedd a\'i fryd ar fynd yn actor.  Cafodd fywyd gwyllt (diod a merched) a bu\'n gweithio yn helaeth mewn theatrau yng Nghymru a Lloegr, ac ar y teledu.

Bu mewn rhaglenni Saesneg megis \'Only Fools & Horses\' a \'Dr Who\' yn ogystal â rhagenni Cymraeg (popeth o \'Miri Mawr\' i ddramâu difrif) ond fel Mr Picton o \'C\'mon Midffîld\' mae llawer yn ei nabod erbyn hyn.

Erbyn hyn mae\'n sgwennu sgriptiau i Radio Cymru ymysg pethau eraill, ac yn fwyaf diweddar bu\'n hwylio gyda\'i gyfaill Dilwyn Morgan ar gyfer rhaglenni ar S4C.  Mae o a\'i wraig wedi mabwysiadu bachgen bach o Haiti, Iwan.