Golwg Sydyn Bargen Loading... Golau Trwy Gwmwl £9.00 £0.00 - £-9.00 Golau trwy Gwmwl ISBN: 9781845277239 John Emyr Cyhoeddi Hydref 2019 Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm Dwsin o storïau sy'n amrywio o ran hyd a thema a phob un yn dangos gafael gadarn yr awdur ar ei grefft. Mewn Cymraeg naturiol a chyhyrog, rhoddir cip ar brofiadau'r cymeriadau ym mwrlwm ein byd cyfoes sy'n cynnwys Cymru ac Ewrop, Belfast a Brexit, y dwys a'r digri.Bywgraffiad Awdur:Brodor o bentref Trefor, Gwynedd, yw John Emyr syn byw erbyn hyn yn Radur, Caerdydd. Gweithiodd ym myd addysg a gwleidyddiaeth. Maen briod â Gwen, yn dad i Gerallt a Luned ac yn daid i chwech o wyrion.Gwybodaeth Bellach:'Dyma lenor aeddfed a hunanfeddiannol a chanddo reolaeth sicr ar ei fater. Yr Athro Gerwyn Williams 'Awdur sy'n ymfalchïo yn ei grefft a'i gyfrwng.'Meinir Pierce Jones Default Title - £9.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa View all details Golau Trwy Gwmwl £9.00
Golwg Sydyn Bargen Loading... Ennyd £7.00 £0.00 - £-7.00 ISBN: 9781845275976 Luned Aaron, John Emyr Cyhoeddi Mawrth 2017 Fformat: Clawr Caled, 210x130 mm Lluniwyd y gyfrol hon ar y cyd rhwng yr arlunydd Luned Aaron a\'i thad, y llenor John Emyr. Munudau dros dro a ddethlir yma: profiadau cyntaf, defodau teuluol a\'r momentau gwerthfawr hynny a rannwn gyda\'n plant a\'n hwyrion. Mwynhewch y cyfuniad sensitif o gerddi a darluniau. Bywgraffiad Awdur:John EmyrLlenor a golygydd. Mae Y Bae a Cherddi Eraill, Gwasg Gomer, ymhlith ei gyfrolau. Bu\'n fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Môn, a chipiodd wobrau’n ogystal yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwasanaethodd fel Golygydd Cofnod y Trafodion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Luned AaronGwelir ei gwaith mewn amryw o orielau a deillia nifer o\'r lluniau yn Ennyd o sioe unigol a gafodd yn Safle Celf Canolfan Gelfyddydau Galeri, Caernarfon. Luned Aaron a luniodd y gyfrol boblogaidd i blant ABC Byd Natur, Gwasg Carreg Gwalch. Mae\'n byw yng Nghaerdydd gyda\'i gŵr Huw a\'u merched, Eos ac Olwen. Default Title - £7.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa View all details Ennyd £7.00