This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Gwen ac Arianrhod 2 Cantre’r Gwaelod

  • £9.99

Dilyniant i’r llyfr graffig hudolus Gwen ac Arianrhod. Mae hi bellach yn wyliau haf,
ac mae Gwen ac Arianrhod wedi treulio pob dydd yn cyfarfod ar y traeth. Er
gwaetha'r trafferthion cychwynnol, mae Gwen wedi ymgartrefu yng Nghricieth
erbyn hyn ac wedi ymuno â'r tîm nofio, ond cawn wybod mwy am Arianrhod y tro
hwn ac mae cyfrinachau tywyll yn cuddio o dan yr wyneb.

Er gwaetha’r trafferthion ar y dechrau, mae Gwen wedi setlo’n well yng Nghricieth
erbyn hyn – mae’n aelod o’r tîm nofio ac yn paratoi at gystadleuaeth fawr yng
Nghaerdydd.

A hithau’n wyliau’r haf, mae Gwen ac Arianrhos yn cyfarfod ar y traeth bob dydd, y
ddwy ffrind yn torri’u boliau eisiau darganfod mwy o Gantre’r Gwaelod gyda’i
gilydd – ond daw Gwen i ddarganfod nad ydi’r lle yn berffaith, a bod ambell gyfrinach dywyll yn cuddio o dan yr wyneb.

LLEUCU GWENLLIAN - Dylunydd ac awdur yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, sydd
bellach wedi ymgartrefu ym Macedonia yw Lleucu Gwenllian. Mae ei gwaith wedi'i
ysbrydoli gan blentyndod yn nhirwedd hudolus Eryri a'i chariad at natur, llen gwerin
ac iaith yn greiddiol i hynny. Ei phrif ffocws oedd darlunio llyfrau plant, hyd yn
ddiweddar, ond mae wedi datblygu fel awdures yn ddiweddar, gan gyhoeddi Chwedl
Calaffate, yn dilyn ymweliad â’r Wladfa. Mae’r nofel graffig Gwen ac Arianrhod yn llawn darluniau hudolus i gyfleu’r stori.