This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Teulu - Stori Plant yr Ysgwrn

  • £7.99

Efallai eich bod wedi clywed am Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu.

Bu'n rhaid iddo adael fferm yr Ysgwrn, Trawsfynydd, a mynd i frwydro yn y Rhyfel Mawr. Bu farw Hedd Wyn yn y ffosydd, ond mae ei stori yn parhau'n fyw o hyd.  Yn y gyfrol hon, cewch ddod i adnabod teulu'r Ysgwrn, a'r ddau frawd Elsyn a Gerald.  Iddyn nhw yn bennaf mae'r diolch ein bod yn dal i fedru ymweld â'r Ysgwrn hyd heddiw.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Haf Llewelyn yn awdur a bardd, gan ysgrifennu ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau darllen ar gyfer plant gan gynnwys y gyfres boblogaidd Ned y Morwr, Y Lolfa, ar gyfer plant sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2014 gyda'r nofel Diffodd y Sêr.
Bu’n gyd-gyfrifol am greu adnodd darllen ar lein ar ffurf cylchgrawn misol o’r enw y Cliciadur/ Clic-it.
Mae gan Haf Llewelyn brofiad eang ym maes dysgu darllen, bu’n Athrawes Gynradd, yn Athrawes Ymgynghorol ac yn Ymgynghorydd Iaith am bron i 30 mlynedd. Bu’n gyfrifol am greu cyrsiau hyfforddi ym maes llythrennedd, ac yn arbennig mewn datblygu darllen, gan greu adnoddau a chreu sesiynau enghreifftiol trwy Gymru gyfan. Bu’n gweithio ar brosiectau pontio yng Ngwynedd a bu’n llywodraethwr ysgol gyda chyfrifoldeb am lythrennedd am dros 20 mlynedd. Bu hefyd dros y blynyddoedd ar sawl panel ymgynghorol ym meysydd llythrennedd a hanes.
Mae bellach wedi ymddeol, ac mae ganddi 6 o wyrion. Mae’n parhau i ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys creu llyfrau ac adnoddau darllen ar gyfer Darllen Co. Mae’n dal i deimlo’n angerddol am greu llyfrau difyr, doniol a gwreiddiol ar gyfer holl blant Cymru.

Artist a darlunydd o ardal Pen Llŷn yw Elin Mair Roberts. Mae’n gweithio â llaw, yn bennaf mewn inc, ac yn mwynhau archwilio lliwiau a gweadau yn ei gwaith. Ar ôl iddi raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2023, mae wedi cael y cyfleoedd i weithio ar lu o gomisiynau, yn cynnwys ei gwaith diweddar ar gyfer Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Caiff ei hysbrydoli gan y byd o’i chwmpas, ei diddordebau yn y celfyddydau, a digwyddiadau cyfredol. Cafodd lwyddiant a chanmoliaeth uchel am ddarlunio'r gyfrol 'Madog' i Wasg Carreg Gwalch yn Awst 2025.
Gwefan: https://www.elinmairroberts.com/

Gwybodaeth Bellach:
Yn y gyfrol hon ceir dau lyfr. Yn y llyfr cyntaf cawn stori ddychmygol drwy lygaid Gerald Williams, wrth iddo ef a’i frawd Ellis fynd i fyw at eu nain a’u taid yn dilyn colli eu mam yn ifanc. Cyflwynir stori Hedd Wyn, ond yn fwy na hynny, cyflwynir y syniad o golled a hiraeth, a phwysigrwydd teulu er mwyn goresgyn hynny.
Yn yr ail lyfr, cawn ddeunydd ffeithiol sy’n gefndir i’r stori, er mwyn rhoi hanes a chyd-destun i’r cyfnod. Cawn gyfle i werthfawrogi awyrgylch yr Ysgwrn a’r fferm fynydd Gymreig. Cawn hefyd olwg ar y weledigaeth i gadw’r lle fel canolfan i’r cenedlaethau i ddod, a’r hyn sydd yn yr Ysgwrn heddiw.

Broliant.
Llyfr 1 - Mae pethau’n anodd wrth i Gerald Williams adrodd ei stori amdano ef a’i frawd Ellis yn symud i fyw at eu nain a’u taid yn dilyn marwolaeth eu mam yn ifanc. Dyma stori am gariad teuluol sy’n goresgyn ofnau, ac yn dod â hapusrwydd i’r rhai sydd ar ôl drwy gefnogi ei gilydd.
Llyfr 2 – Dysgwch am gefndir, traddodiadau a chyd-destun y cyfnod hwn ar fferm fynydd Gymreig, yn ogystal â’r hyn sydd i’w weld yn yr Ysgwrn heddiw, yn dilyn y weledigaeth i greu canolfan i gadw’r lle ar gyfer y dyfodol.

  • ISBN: 9781845248123
  • Cyhoeddi: 19 Mehefin 2026
  • Darluniwyd gan Elin Mair Roberts
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 100 tudalen