This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Yn 1998, treuliodd yr awdur saith mis yn ymweld ag archifau, llyfrgelloedd a meysydd y gad ynAmerica yn ystod ei ymchwil i ddoethuriaeth ar ran y Cymry yn y rhyfel Cartref.
Yn y gyfrol hon, cawn ei hanes yn cyfarfod nifer helaeth o Gymry o dras Cymreig. Er bod
amryw ohonynt wedi’u cymhathu yn Americanwyr ers sawl cenhedlaeth, maent er hynny’n
falch o arddel eu cysylltiad Cymreig. Mae hon yn stori bersonol, llawn cameos difyr, yng
nghwmni awdur ffraeth a hunan-ddychanol.
Digwyddiadau a chymeriadau’r rhyfel Cartref sy’n penderfynu llwybrau’r misoedd hynny.
Daw’r hanes yn fyw – hanes sy’n dal i siarad gyda ni heddiw.
“Mewn ystyr ehangach, roedd [rhyfel Cartref America] yn frwydr dros y syniadau am ryddid, cydraddoldeb a rôl y llywodraeth – cwestiynau sy’n cael eu hadleisio hyd heddiw. Ac roedd y Cymry dros eu pennau a’u clustiau yn rhan o’r holl hylabalŵ yma. fy rôl i oedd datguddio eu stori.”
Bywgraffiad Awdur
Ar ôl dros ugain mlynedd o fod yn athro hanes mewn ysgolion uwchradd ac yna
ychydig o flynyddoedd fel ymgynghorydd, fe benderfynodd fentro a mynd am swydd uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi sant. wrth gymryd y cam hwn, dechreuodd ailystyried ei waith academaidd,yn fwyaf arbennig ei draethawd doethuriaeth ar ran y Cymry yn hanes rhyfel Cartref America. Yna daeth y syniad o gyfuno’r ymchwil academaidd â’i brofiadau personol yn teithio America i greu llyfr newydd lle mae’r hanesydd a’r teithiwr yn cyd-fyw ac yn caniatáu mynegiant i ‘lais boi bach o Gwmtwrch’.