This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Gwyddeldod: Taith at ein Cefndryd yn y Gorllewin
- ISBN: 9781845279004
- Cyhoeddi: Mehefin 2023
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 304 tudalen
Mae'r gyfrol hon yn olrhain hanes taith 1,500 o filltiroedd mewn cartref-modur ar hyd glannau'r Iwerydd yn Iwerddon. Teithiwn o Dún Garbhán yn y de i ynys Reachlainn yn y gogledd, gan dyrchu i bob twll a chornel o'r arfordir, yn bennaf drwy ddilyn llwybr swyddogol Slí an Atlantaigh Fhiáin, Llwybr yr Iwerydd Gwyllt, y Wild Atlantic Way.
Bywgraffiad Awdur:
Bu Ian Parri yn newyddiadurwr a cholofnydd gyda'r Herald Cymraeg, Y Cymro, y Daily Post a BBC Cymru am 20 mlynedd, a chyfrannodd at lu o gyhoeddiadau eraill fel Golwg, Mela a Barn. Mae'n dal i wneud gwaith newyddiadurol llawrydd, yn ogystal â gwaith cyfieithu, o'i gartref yng Nghaernarfon. Mae'r gyfrol ddiweddaraf hon yn ddilyniant i ddau deithlyfr arall o'r un anian: cyhoeddwyd Nid yr A470 yn 2013, a gafodd ei gosod ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2014, a chyhoeddwyd Cyffordd i Gyffordd yn 2016.
Gwybodaeth Bellach:
Cawn gyfle i gyfarfod â chymeriadau difyr, treulio amser mewn tafarnau a gwylnosau angladdol, gweld rhyfeddodau, a chrwydro'r strydoedd a'r meysydd a'r ynysoedd. Mae'n cynnig golwg grafog, weithiau'n dafod-yn-y-boch ond weithiau'n mwy difrifol, ar gymdeithas a hanes y Gwyddelod a'u gwlad, eu hiaith a'u diwylliant, a'u perthynas gyda ni eu cyd-Geltiaid.