This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Nofel am gerddorion jazz yn Berlin sy'n byw yng nghysgod y Natsïaid a bygythiad yr Ail Ryfel Byd. Mae Neifion yn rheolwr ar fand o gerddorion rhyngwladol - yn eu mysg mae Cymro, Americanwyr Affricanaidd ac Almaenes a oedd yn arfer bod yn ffrindiau ag un o'r swyddogion Natsïaidd lleol sy'n ceisio'i orau i 'lanhau' Berlin...
Cliciwch yma i ddarllen adolygiad Llwyd Owen o'r nofel!
Pianydd yr Asphalt Hustlers yw Ifan Williams, sydd wedi syrthio mewn cariad â chantores y band yn ogystal â’r gerddoriaeth gyffrous. A fydd cysgod hir yr Ail Ryfel Byd yn llwyddo i chwalu eu dyfodol disglair?
Chwip o nofel. Rhybudd cynnil am sut y gall meddyliau gulhau a ffasgiaeth ymddangos yn sydyn, a pheryglon hynny yn enwedig ar gyfer lleiafrifoedd hil a chrefydd – rhybudd a allai adleisio'r arwyddion sy’n dod i'r amlwg yn y Gorllewin heddiw. Ro’n i'n methu ei rhoi i lawr. – MALACHY OWAIN EDWARDS
- ISBN: 9781845279646
- Awdur: Simon Chandler
- Cyhoeddi: Mehefin 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen
Cyhoeddodd Simon Chandler - y cyfreithiwr a’r bardd o Lundain, sydd bellach yn byw ym Manceinion - ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ym mis Rhagfyr 2023. Mwynheais i hi’n fawr, ond dim hanner cymaint â’i ail nofel, Hiraeth Neifion, sydd wedi ymdroi yn y cof ers i fi orffen ei darllen yr wythnos ddiwethaf.
Yn y bôn, stori serch sydd yma, er nad yw hynny’n dod yn agos ati a dweud y gwir. Yn gyntaf, ac yn ganolog i’r cyfan, mae carwriaeth drychinebus rhwng y Cymro, Ifan Llwyd, a’r Almaenes, Emmi Schmidt, wrth i’r ddau gyd-berfformio ym Merlin, yn y cyfnod rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, fel aelodau o’r band jazz, yr Asphalt Hustlers.
Yn ystod y nofel, clywn am daith Ifan i Ferlin, a ddechreuodd gyda datgeliad syfrdanol ei frawd, Ieuan, ym Mlaenau Ffestiniog, ar ei ben-blwydd yn un-ar-bymtheg, a chweir haeddiannol i’w dad, Dafydd, sef yr hoelen olaf yn arch ei blentyndod, a’r catalydd i Ifan ffoi er mwyn cychwyn bywyd newydd yn bell i ffwrdd o’r llechi. O Flaenau i Lundain, ac ymlaen i Ferlin, lle mae cerddorion du a gwyn yn gallu cyd-berfformio ar lwyfannau’r ddinas, yn wahanol i’r Unol Daleithiau. Yno, gyda chefnogaeth galonnog y dyn busnes, Willi Grünbaum (‘Neifion’ i’w ffrindiau), mae Ifan yn cwrdd ag aelodau’r Asphalt Hustlers, o dan arweiniad Art Wendell, trwmpedwr o fri o New Orleans, yng nghlwb nos gogoneddus ‘Palas Neifion’.
Mae byd Ifan yn newid am byth pan mae’n gweld Emmi Schmidt, cantores y band, am y tro cyntaf, ond gyda’i chysylltiadau teuluol cymhleth hi, mae eu carwriaeth wedi’i chondemnio o’r cychwyn, er bod tro annisgwyl yng nghwt y stori, oedd yn foddhaus iawn i fi fel darllenydd.
Gyda Lutz Schneider, hen ffrind Emmi a phrif ddihiryn y nofel, mae’r awdur wedi creu ‘dyn drwg’ cofiadwy iawn. Mae golygfeydd Schneider yn llawn bygythiad, ac ymgripiad anochel y Blaid Natsiaidd yn gefnlen dywyll a phroffwydol i’r stori gyfan, ac yn wrthgyferbyniad effeithiol iawn i’r golygfeydd llawn gorfoledd o’r band yn ymarfer, perfformio a chyd-fyw gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod hynod ymfflamychol hwn yn hanes y byd.
Tu hwnt i’r stori ddynol, dyma faled ddidwyll, neu lythyr caru llawn parch a chariad, at gerddoriaeth jazz. Mae teimladau’r awdur at y genre yn gwbl amlwg, a’i ddisgrifiadau o’r cerddorion meistrolgar yn ymarfer eu crefft yn taro tant, a byth yn diflasu’r darllenydd, nac yn arafu ar lif y nofel. Yn wir, gyda’r tyndra’n tagu bron pob tudalen, mae Hiraeth Neifion yn darllen fel nofel ias a chyffro ar adegau cyson.
Yn ogystal â gosod y stori mewn cyfnod hanesyddol go iawn, a chyfeirio at ddigwyddiadau real o hanes diweddar, mae wynebau cyfarwydd yn ymddangos yn y nofel, a’r awdur yn defnyddio’r cerddor, Louis Armstrong, a’r Natsi drwg-enwog, Joseph Goebbels, yn gynnil ac yn glyfar yn y plot, â’u cameos yn ychwanegu haenen arall hudolus i’r cyfan.
Er gwaethaf y ffaith bod rhan helaeth y nofel yn digwydd rhyw ganrif yn ôl, mae rhyddiaith Simon Chandler yn gyfoes ac yn gyffrous. Mae’r deialog yn frathog a’r cymeriadu’n hynod effeithiol. Torrais fy nghalon wrth ddarllen Hiraeth Neifion, cyn i’r awdur ei gludo yn ôl at ei gilydd yn y bennod olaf un. Gwych iawn!