This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
O’r adeg y glaniodd y fintai gyntaf o Gymry ym Mhorth Madryn ym 1865, gweithredodd Richard Jones Berwyn fel un o brif arweinwyr y Wladfa ym Mhatagonia. Bu’n gofnodwr arbennig; aeth ymlaen i fod yn grwner, harbwr feistr, rheolwr yr orsaf dywydd ac yn bostfeistr am dros dri deg o flynyddoedd. Bu hefyd yn athro ac yn gyhoeddwr llyfrau, ac agorodd felin a siop lyfrau ac offer ysgrifennu, y gyntaf o’i math yn y Wladfa. Yn wir, gweithiodd yn ddiflino i sicrhau ffyniant yr ymfudwyr cyntaf. Eto, ychydig o sylw a gafodd yn y croniclau hanes.
‘Diolch am gofio un o gymwynaswyr mawr y Wladfa.’
ROBIN GWYNDAF
Dechreuodd Graham Wynne Edwards, yr awdur, ymddiddori yn hanes Berwyn o ddifri pan sylweddolodd fod y dyn a anwyd yng Nglyndyfrdwy wedi'i fagu yn Nyffryn Ceiriog, fel yntau. Teimlodd nad oedd digon o sylw wedi ei roi iddo yn ardal ei febyd, beth bynnag am drwy weddill Cymru a’r Wladfa.
Y drydedd gyfrol yn y gyfres: Llyfrau Hanes Byw
- ISBN: 9781845279622
- Cyhoeddi: Mawrth 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 160 tudalen
Richard Jones Berwyn – Hanes Rhyfeddol un o Arloeswyr y Wladfa gan Graham Wynne Edwards (Llyfrau Hanes Byw 3)
Dyma gyfrol mewn cyfres newydd gan Wasg Carreg Gwalch a gyhoeddir ar ddydd Gŵyl Ddewi eleni. Cyfrol am Richard Jones Berwyn o Ddyffryn Ceiriog – Cymro pybyr, dylanwadol, a aned ym 1837 na wyddwn i ddim oll amdano tan i mi ymgartrefu ym Mhatagonia. Fel finna gynt felly, tybiaf mai prin yw’r Cymry sy’n gyfarwydd â hanes ‘Berwyn’ ac mae’r awdur Graham Edwards yn nodi mai’r diffyg ymwybyddiaeth hwnnw a’i sbardunodd ef i ddod â’r gyfrol i olau dydd, gan unioni’r cam a dod ag un o brif arloeswyr y Wladfa i’n sylw o’r diwedd. Ond er bod y llifoleuadau wedi’u hanelu at hynt a helynt bywyd a gwaith Berwyn, mae’r gyfrol yn taflu goleuni ehangach ar hanes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia a hynny, yn fy marn i, yw cryfder y gyfrol. Nid dim ond hanes un dyn a gawn – llwyddodd yr awdur hefyd i grynhoi hanes datblygiad y mudiad dros gyfnod cynnar ei bodolaeth yn sgil ei ymchwil i fywyd y gwron o Lyndyfrdwy a fabwysiadodd yr enw ‘Berwyn’ yn gynnar yn ei oes, er parch i’w fro enedigol. O ganlyniad, dyma gyfrol ddestlus sy’n haeddu ei lle ymhlith y casgliad amrywiol o lyfrau a gyhoeddwyd ers sefydlu’r Wladfa 160 mlynedd yn ôl.
Yn bedair ar ddeg oed, gwnaed Richard Jones, y sgolor ifanc disglair o Ddyffryn Ceiriog, yn ddisgybl athro a’r flwyddyn ganlynol enillodd ysgoloriaeth i fynychu athrofa yn Llundain. O hynny ymlaen, ar hyd ei fywyd bu Berwyn yn gwasanaethu’r Gymraeg, ei gydwladwyr a’i gyd-Wladfäwyr yng Nghymru ac ym Mhatagonia. Yn ogystal â’i waith fel addysgwr, roedd hefyd yn hynafiaethydd a llenor, newyddiadurwr, golygydd, melinydd, cyfrifydd, cofrestrydd a threngholydd, swyddog ‘maeldy’, llyfrwerthwr, ceidwad porthladd, prif stiward llong, rheolwr swyddfa dywydd, seryddwr, ysgrifennydd y Cyngor a’r Pwyllgor Gwladfaol, awdur Almanac Berwyn, blaenor capel a llawer mwy… a thad a llysdad i bymtheg o blant (cewch hanes difyr dull enwi ei blant yn y gyfrol)!
Mae’r gyfrol wedi’i rhannu’n ddwy, gyda threfn effeithiol iddi. Yn gyntaf ceir un ar ddeg o benodau cymen sy’n cyflwyno gwahanol agweddau ar hanes y Wladfa, a phrofiad neu gyfraniad Berwyn yn ganolbwynt iddynt. Mae’r ysgrifennu’n gynnil, grefftus ac yn llawn gwybodaeth am y meysydd canlynol: gadael Cymru; yr ogofâu ym Mhorth Madryn; llong y Mimosa; afon Camwy; y baban cyntaf a aned yn y Wladfa; cyfraniadau Berwyn; ei gerddi a’i waith addysgu; y capeli; yr Indiaid; cysylltiad y Wladfa a llywodraeth yr Ariannin; gorlif 1899 a cholli llafur oes.
Mae ail hanner y gyfrol yn canolbwyntio ar y dyn ei hun, mewn wyth rhan sy’n manylu ar y canlynol: ei deulu yn Nyffryn Ceiriog; maboed a llencyndod; Elizabeth ei wraig a’u plant; ei ddiddordeb mewn natur a seryddiaeth; ei gariad at fro ei febyd; rhagor o berthnasau yn dod i’r Wladfa; y bleidlais i ferched; ei farwolaeth. Testun llawenydd oedd gweld pennod am hanes gwraig Berwyn; ymchwiliodd yr awdur i gefndir Elizabeth Pritchard yng Nghymru cyn iddi hithau gamu ar y Mimosa ac er mai digon niwlog yw’r wybodaeth amdani bellach, da gweld bod ei chyfraniad hithau fel gwraig a mam yn cael ei anrhydeddu, yn ogystal â gwybodaeth am eu disgynyddion.
Wrth gwrs, mae cyfraniad Berwyn i fywyd y sefydliad wedi cael ei werthfawrogi yn y Wladfa erioed (mae strydoedd, capel, llyfrgell ac ysgol yn dwyn ei enw) ond yng Nghymru, aeth ei enw i’r cysgodion fel ’tae. Gŵyr llawer am Michael D. Jones, Lewis Jones, John Daniel Evans a’i geffyl Malacara, Eluned Morgan, Llwyd ap Iwan ac eraill ond ychydig a glywodd am Richard Jones, yr hogyn bach o Frynhyfryd, Glyndyfrdwy a ddaeth yn ŵr eithriadol ddawnus a gweithgar ac yn lladmerydd amlieithog ar ran y Cymry cyntaf ym Mhatagonia gerbron y llywodraeth ym Muenos Aires.
Ym mis Rhagfyr 2017, ganrif ers marwolaeth Richard Jones Berwyn, cefais y fraint o greu arddangosfa amdano ar gyfer cwrdd coffa dan ofal Cyngor Tref y Gaiman. Bryd hynny, roedd nifer ohonom yn gresynu na fyddai rhywun yn llunio bywgraffiad i Berwyn (a hyd yn oed gyfres o gyfrolau am arwyr y Wladfa). A dyma ni, o’r diwedd, gyfrol wych sy’n talu teyrnged i un o brif arweinwyr y Wladfa ym Mhatagonia. Felly ar ran pobl y Wladfa, ‘Diolch o galon, Graham’.
Esyllt Nest Roberts