This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Pwy yw Dafydd ap Siencyn
a pham fod prif swyddogion a byddin Castell Conwy am ei waed?
Mae'r gŵr hwn, sy'n bencampwr ar drin y bwa hir,
yn cael ei hela yn Nyffryn Conwy.
Ond mae ef a'i gyfeillion yn llochesu mewn ogof ar graig Carreg y Gwalch, uwch coed y dyffryn.
Mae natur y coed a'r creigiau yn eu hamddiffyn. Mae pobl
Dyffryn Conwy yn ei gefnogi yn ogystal.
A fydd milwyr Castell Conwy yn llwyddo i'w dal?
Dyma nofel am gymdeithas yn sefyll ar ei thraed yn wyneb gormes llywodraeth y cestyll yn ystod y ganrif ar ôl Owain Glyndŵr.
Mae Lleucu Gwenllian, darlunydd y gyfrol, yn or-wyres i’r awdur, Emrys Evans o Flaenau Ffestiniog. Cyhoeddwyd 10 o nofelau Dafydd ap Siencyn gan Wasg Carreg Gwalch yn ystod y 1980au.
Er fod y nofel hon wedi’i lleoli yn Nyffryn Conwy, mae olion castell Normanaidd bron ym mhob dyffryn mawr yng Nghymru ac mae’r sefyllfa yn benthyca ei hun yn hawdd i’w dehongli yng nghyd-destun cynefinoedd eraill.
Oedran Darllen ac Oedran Diddordeb
Anelir y gyfrol at blant a phobl ifanc 8–12 oed, sy'n mwynhau nofelau cyffrous, anturus. Mae'r testun o fewn cyrraedd darllenwyr hyderus Blynyddoedd 5 a 6 ac o fewn cyrraedd darllenwyr eithriadol o hyderus Blwyddyn 4. Ond mae'r stori, y cymeriadau, yr hanes a'r adnoddau o ddiddordeb ar draws 8–12 oed.
Mae'r stori yn dod â chyfnod gormes y cestyll Normanaidd a'r Deddfau Cosb ar y Cymry yn fyw – mae'n addas i bob rhan o Gymru felly. Mae'n nofel i'w darllen o ran pleser yn bennaf oll. Ond bydd yn ddefnyddiol i hyrwyddo llythrennedd, y dyniaethau a gwerthfawrogiad o hanes gan fod Adnoddau (i'w defnyddio yn y cartref ac mewn ysgolion) am ddim i'w lawrlwytho oddi ar wefan Gwasg Carreg Gwalch.
Mae’n rhan o gynllun treialu gan Wasg Carreg Gwalch gan ddefnyddio ar gyfer cyfres o nofelau i wahanol oedrannau cynradd, fydd yn cynnwys gweithgareddau i’w lawrlwytho am ddim, er mwyn ceisio helpu rhieni ac athrawon i daclo’r cwymp diweddar mewn hyder darllen a welwyd yng Nghymru. Dyma rai o nodweddion y gyfres ar gyfer lefel diddordeb i oedrannau 5+, 7+, 9+, 11+
• testunau wedi’u sgwennu’n dda sy’n annog trafodaeth
• straeon bachog o ran meithrin diddordeb, ond o fewn cyrraedd darllenwyr heb allu llythrennedd uchel
• cynnwys heb fod yn nawddoglyd yn cyfateb i oedran diddordeb y darllenydd, nid ei oedran ond ei allu llythrennedd
• ffont unigryw, cyfeillgar i dyslecsia sy’n gwneud y darllen yn haws i bawb
• papur trymach nag arfer, hufennog ei liw sy’n cynorthwyo i leihau problemau i ddarllenwyr anawsterau gweld SpLD a darllenwyr anfoddog
• cysodi hygyrch – cymalau ystyr yn cael eu cadw wrth dorri llinellau; paragraffau cyfan yn cael eu parchu wrth osod diwedd tudalennau; dim gorwasgu testun ar dudalennau
• golygu arbenigol yn sicrhau darllen esmwythach ond sy’n dal i herio’r darllenydd a rhoi boddhad
• penodau byr gyda dylunio addas a darnau gorffwys/lluniau i apelio at y llygad a’r dychymyg
• cloriau gwych sy’n denu sylw, yn apelgar ac yn rhydd o stigma
• darllenwyr sydd â chyfri isel o’u gallu eu hunain, heb hyder neu heb fedru canolbwyntio am gyfnodau arbennig o hir
• y llyfrau hefyd yn apelio at ddarllenwyr mwy cyfarwydd sydd eisiau llyfr da i’w ddarllen yn sydyn
• bydd rhai adnoddau ar gael: gweithgareddau hwyliog i blant iau, gweithgareddau dosbarth a chanllawiau trafod i blant hŷn; prosiectau clwb darllen, dosbarth cyfan neu grwpiau llai; posteri i’w lawrlwytho