Golwg Sydyn Bargen Loading... Straeon Hynod yn ein Hanes (Llyfrau Hanes Byw) £8.99 - £-8.99 Mae amryw o'r prif gymeriadau yn y straeon hyn yn gyfarwydd inni, mae hanesion hynod ac annisgwyl amdanyn nhw sydd heb gael llawer o sylw - nes cyhoeddi'r gyfrol hon. Casgliad o bymtheg o straeon annisgwyl a di-sôn-amdanynt o hanes Cymru wedi'u cyflwyno'n fywiog gan Melfyn Hopkins. Gwybodaeth Bellach: Aiff y straeon â ni drwy gyfnodau amrywiol mewn hanes, ac i wahanol ardaloedd yng Nghymru a thu hwnt, a chawn wybod am ddigwyddiadau dwys, difri ac ambell beth doniol na wyddem amdanyn nhw cyn hyn. Dyma’r manion sy’n rhoi golwg arall ar ddigwyddiadau hanesyddol ein gwlad. Bu’r awdur, Melfyn Hopkins yn pori drwy groniclau, adroddiadau, erthyglau a chofnodion o’r gwahanol gyfnodau i ddarganfod a datblygu’r straeon hyn, a’i obaith yw y bydd y gyfrol yn peri i’r darllenwyr werthfawrogi cyfoeth ein hetifeddiaeth yng Nghymru yn well.Dyma'r ail gyfrol o gyfres: Llyfrau Hanes Byw ISBN: 9781845278144 Melfyn Hopkins Cyhoeddi: Chwefror 2025 Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 200 tudalen Default Title - £8.99 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Straeon Hynod yn ein Hanes (Llyfrau Hanes Byw) £8.99