This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dan y Ddaear

  • £9.99
  • Dan y Ddaear
  • ISBN: 9781845279530
  • John Alwyn Griffiths
  • Cyhoeddi: Hydref 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 182x124 mm, 300 tudalen

Pan gaiff corff ei ddarganfod ar dir fferm, mae pawb yn sicr mai mab y fferm, a ddiflannodd bum mlynedd ynghynt, ydi o. Ond pwy laddodd o, a pham?

Mae pob ditectif gwerth ei halen yn gweithredu o fewn ei filltir sgwâr. Vigàta yw tref ddychmygol Salvo Montalbano ar arfordir deheuol Ynys Sicilia; St Mary Mead yw pentref Seisnig̶-gysurus Miss Marple; tra bod tref go iawn Ystad yn ne Sweden yn deyrnas i Kurt Wallander. Erbyn hyn mae tref Glan Morfa yng ngogledd Cymru yn gartref i’r ditectif Cymraeg cyfoes mwyaf ei fri, sef Jeff Evans, Q.P.M.

Ffenomen nad sy’n derbyn llawer o glod o fewn y byd llenyddol, mewn unrhyw iaith, yw ffuglen datrys torcyfraith. Mae’n wir y gall llunio ffuglen o’r fath droi’n fformiwla sy’n cael ei haddasu o’r naill nofel i’r llall, ond mae yna hefyd nofelau sy’n amlygu dawn lenyddol gynhenid yn ogystal â stori dda a manylion technegol cywir, er enghraifft cynnyrch P. D. James. Y mae’r awdur dan sylw yma, John Alwyn Griffiths, yn sicr o ran hanfodion y grefft, yn wybodus am arferion yr heddlu fel cyn brif dditectif, ac mae ganddo Gymraeg sicr, idiomatig a chywrain ar ben hynny.

Hon, eleni, yw’r drydedd ar ddeg yn y gyfres nofelau sy’n adrodd hanes dal dihirod Glan Morfa a’r cylch. Mae cynfas yr awdur yn wahanol bob tro ̶ natur y troseddu yn wahanol ym mhob cyfrol a’r straeon wedi eu gweu’n gymhleth nes bod Jeff Evans, yn llwyddo i greu dénouement boddhaol trwy ei ddulliau anghonfensiynol. Oherwydd y dulliau hynny, rhai nas dysgir mewn coleg plismona, y mae’r ditectif hwn yn llwyddo yn amlach na pheidio i gyrraedd y nod, er cryn ofid i’w benaethiaid syfrdan, ac er cryn risg corfforol personol iddo’i hun, cyn diwedd pob anturiaeth.

Y broblem fawr wrth adolygu nofel ddatrys yw gwybod faint o’r stori y gellir ei datgelu, digon i godi blas a chwilfrydedd ar ddarpar ddarllenydd, ond cofio hefyd peidio â gollwng y gath o’r cwd cyn i’r darpar ddarllenwr hwnnw brynu’r gyfrol. Trosedd hanesyddol yw sylfaen y stori yn y nofel hon. Mae’r cefndir yn amaethyddol y tro hwn gyda thenant yn aredig tir ac yn darganfod esgyrn dynol. Digon yw dweud bod yr hanes wedi ei greu’n grefftus o gwmpas y teulu biau’r tir dan sylw a bod yma ddihirod go iawn, rhai o bell does dim angen dweud, yn ogystal ag ambell Gymro sydd wedi cael ei gyfareddu gan ddulliau anghyfreithlon o wneud arian.

Rhag i’r darllen fynd yn rhy dywyll ac anodd ei stumogi, mae gan yr awdur nofelau datrys yn aml rhyw gymeriad sy’n dod ag elfen ysgafnach, neu elfen o gomedi hyd yn oed, i’r digwydd. Dyna ichi’r plismon Catarella yng nghyfres Montalbano o waith Andrea Camilleri. Mae ef yn llwyddo, nid yn unig i gamgofio enwau’r unigolion a ddaw i mewn i dderbynfa swyddfa’r heddlu, ond hefyd yn llwyddo i daro drws swyddfa’r Doctore bob tro y daw i mewn i’w swyddfa. Yn y nofel dan sylw, fel yn y cyfrolau blaenorol, Nansi’r Nant sy’n dod ag awel ysgafnach i nofelau John Alwyn Griffiths – Miss Dilys Hughes i roi iddi ei henw cofrestredig swyddogol. Hi yw cynrychiolydd is-fyd Glan Morfa (Buchedd B y dref), ac yn ceisio trwy bob dull a modd i ddenu’r ditectif diwair gyda’i deniadau benywaidd. Gwybodaeth Nansi, yn aml iawn, sy’n rhoi Jeff ar ben y ffordd i ddal y dihirod ac y mae yntau bob amser yn ofalus i beidio â datgelu enw ei hysbysydd i’w gyd-weithwyr, yn unol ag integriti pob ditectif gwerth ei halen.

Dyma nofel dditectif gyfoes sy’n gafael yn y darllenydd. Mae ynddi droeon annisgwyl a llwybrau sy’n troelli’n groes i’r hyn a ddisgwylir. Y cymeriadau amheus yn aml yn ddieuog a’r annisgwyl yn euog dros ben!

Dafydd Ifans