This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Fi Sy'n Cael y Ci

  • £8.00
  • £0.00
  • Fi sy'n cael y ci
  • ISBN: 9781845275365
  • Rhian Cadwaladr
  • Cyhoeddi Rhagfyr 2015
  • Fformat: clawr meddal, 195x130mm

Mae Gwen newydd ddathlu ei phen-blwydd yn hanner cant a'i phlant ar fin gadael y nyth - ac mae ei phartner wedi ei gadael yn ddisymwth.  Dyw ei mam ddim yn help iddi gan ei bod yn dal i eilun-addoli cyn-ŵr Gwen a redodd i ffwrdd efo merch ieuengach saith mlynedd ynghynt!  Cawn ymuno â hi yn ei hymdrechion i anghofio'r sinach a chadw rheolaeth ar ei chi anystwallt!

Bywgraffiad Awdur:

Yn ôl ei mam, dechreuodd Rhian adrodd straeon am y tro cyntaf tra oedd hi'n eistedd ar y poti yn ddwy oed.  Mae hi wedi bod yn adrodd straeon wrth bawb sy'n fodlon gwrando arni byth ers hynny, gan gynnwys drwy gyfrwng ei gwaith fel actores a sgriptiwr sioeau ar gyfer pobl ifanc.  Dyma'r tro cyntaf, fodd bynnag, iddi fentro ar stori mor hir â nofel.