This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Hei Fidel!

  • £9.99
  • Hei Fidel!
  • ISBN: 9781845279097
  • Pryderi Gwyn Jones
  • Cyhoeddi: Awst 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen
Mae bywyd yn ddiflas i athro Cymraeg canol oed: mae angen bod yn amyneddgar yn y dosbarth, yn gymydog da, yn gefnogol i'w wraig, ac yn gydymaith i'w gyfeillion.
Bywgraffiad Awdur:
Ganed Pryderi Gwyn Jones yn Aberystwyth, a chafodd ei fagu yn Llansannan, Dyffryn Clwyd, ac ym Mangor. Wedi cyfnod o deithio gwledydd Ewrop a De America symudodd i’r canolbarth. Mae’n athro ysgol ers blynyddoedd, yn hoff o siarad am bêl-droed ac yn mynd i focsio i Gorris Uchaf bob wythnos. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr i blant: Brenin y Trenyrs (2020), Kaiser y Trenyrs (2021) a Tywysog y Trenyrs (2021).
Gwybodaeth Bellach:
Ond yn oriau tywyll y nos mae Jones yn gwrthryfela, ac yn rhan o ymgyrch i dalu’r pwyth yn ôl am un o’r camweddau mwyaf yn holl hanes Cymru. All Jones, gyda chymorth Bob Marley, Bendigeidfran, Fidel Castro, Saunders Lewis, Oppenheimer, Jemima Niclas, Harri Webb, William Williams Panytcelyn a gweddill criw Seion, ddinistrio dinas Lerpwl?
Nofel ffantasïol a gafodd ganmoliaeth uchel gan feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2022.
‘Dyma awdur sy’n sicr yn seren lachar a chyffrous yn ffurfafen y nofel Gymraeg. Llais beiddgar a gwahanol sydd yn torri tir newydd fel y gwnaeth Mihangel Morgan a Daniel Davies.’ – Emyr Llywelyn
‘Mae’r ffraethineb a’r dychymyg o’r radd flaenaf.’ – Ioan Kidd
‘Cryfder mawr y nofel hon yw’r momentau tawel, cynnil.’ – Manon Steffan Ros