This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Lloerig

  • £8.00
  • £0.00
  • Lloerig ISBN: 9781845278496
  • Geraint Lewis
  • Cyhoeddi: Mawrth 2022
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 180 tudalen

Dyw rhieni ddim i fod i gladdu eu plant Ond doedd gan Mari ddim dewis. Crogodd ei mab, Kevin, ei hun o gangen y goeden afal yn yr ardd. Pam wnaeth e'r fath beth?

Bywgraffiad Awdur:

Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Graddiodd mewn Saesneg a Drama o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd, i gyd i Wasg Carreg Gwalch a thair cyfrol o straeon byrion Y Malwod (Annwn), Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa) a Cofiwch Olchi Dwylo a negeseuon eraill (Carreg Gwalch). Ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa Tony Bianchi yn 2019. Daeth y nofel hon yn ail am y Fedal Ryddiaith yn 2021. Bu Geraint yn ysgrifennun helaeth ir theatr a radio ac maen ysgrifennun gyson ar gyfer y teledu, yn bennaf ir gyfres Pobol y Cwm. Maen byw yn Aberaeron gydai wraig Siân.

Gwybodaeth Bellach:

Mae darllen am farwolaeth hogyn 16 oed yn heriol ond yn nwylo awdur mor fedrus mae sensitifrwydd y dweud yn gyfle i archwilio nifer o themâu grymus. Dyma nofel hynod grefftus ... teimlais ein bod yng nghwmni awdur arbennig. Elwyn Jones.

Nofel bwerus yn dilyn ymateb mam i hunanladdiad ei mab un ar bymtheg oed. Ysgrifennwyd y nofel hon mewn arddull drawiadol, a daeth yn ail yng nghystadleuaeth Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Rithiol 2021 gan ennyn canmoliaeth uchal gan Rhiannon Ifans, un o'r beirniaid: 'nofel graff sy'n torri tir newydd.'