This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Mudferwi

  • £7.99
  • £0.00
  • Mudferwi
  • ISBN: 9781845277147
  • Rebecca Roberts
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2019
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm
Merch dawel a swil yw Alys, sy'n ddigon hapus yn gweithio yng nghegin ysgol y pentref... hynny yw, nes i'r gegin honno gau. Penderfyna wneud cais am swydd mewn bwyty lleol sydd newydd gael ei brynu gan gogydd teledu enwog - cogydd sydd ddim yn hoffi'r syniad o ferched yn gweithio yn ei gegin.

Gwybodaeth Bellach:
Unig obaith Alys o gael y swydd yw esgus bod yn fachgen... ond am ba hyd all hi dwyllo'i bòs newydd golygus? Hon yw nofel gyntaf Rebecca Roberts, er bod peth o'i gwaith wedi'i gyhoeddi mewn casgliadau o straeon. 'Mae Rebecca Roberts yn un o'r awduron prin sy'n eich tynnu i mewn i stori yn llwyr rydw i'n eistedd i lawr efo'i nofel, ac yn sydyn mae oriau wedi mynd heibio a minnau wedi ymgolli'n llwyr! Sgwennu gafaelgar, ysgafn gyda chymeriadau syn hawdd uniaethu â nhw.' Manon Steffan Ros