This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- Plethu
- ISBN: 9781845277451
- Rhian Cadwaladr
- Cyhoeddi Gorffennaf 2020
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 186 tudalen
Roedd Elin wedi meddwl y byddai bywyd yn haws ar ôl iddi wneud y penderfyniad i adael ei gwr a dechrau perthynas â ffrind bore oes yn Iwerddon... ond doedd hynny ond dechrau gofidiau. Buan y mae'n darganfod nad ydi cynnal perthynas o bell a cheisio trefnu ysgariad ar yr un pryd yn fêl i gyd, a bod sawl un â'i fryd ar chwalu ei breuddwydion yn ufflon.
Bywgraffiad Awdur: Addawodd Rhian iddi ei hun pan oedd yn ei harddegau y byddain sgwennu nofel rhyw ddydd. Er iddi ysgrifennu sgriptiau a sioeau i blant yn y cyfamser, roedd hin hanner cant cyn ysgrifennu ei nofel gyntaf, Fi syn cael y ci. Yn dilyn honno ysgrifennodd un arall Môr a Mynydd. Hon yw ei thrydedd nofel.
Gwybodaeth Bellach: Dilyniant i'r nofel boblogaidd 'Môr a Mynydd'. All hi lwyddo i blethu dau deulu mewn dwy wlad, neu a fyddain haws iddi ildio a dychwelyd adref? Maer nofel hon yn enghraifft berffaith or modd y gellir plicio haenau oddi ar berthynas pobl âi gilydd, fel nionyn, i ganfod y gwir. Buan y byddwch wedi ymgolli yn y stori, closio at y cymeriadau a meddwl beth ywr ateb i sefyllfa anodd Elin a Rhys. Bethan Mair am Môr a Mynydd,