This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Roma - Hen Wlad fy Nhad

  • £1.00
  • £6.50
  • ISBN: 9780863819186
  • Awdur: Dafydd Apolloni
  • Cyhoeddi Tachwedd 2004
  • Fformat: Clawr Meddal, 183 x 122 mm, 288 tudalen

Cyflwyniad lliwgar i Rufain, wrth i'r awdur dreulio blwyddyn yno yn cryfhau'r berthynas gyda'i gefndryd Eidalaidd, teulu ei dad, yn cynnwys stôr o wybodaeth a sylwadau hynod dreiddgar am hanes a gwleidyddiaeth, iaith, diwylliant a chwaraeon yr Eidal. 41 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Petai’r llyfr yma yn gêm bêl-droed, byddwn i’n dweud bod yr awdur wedi dechrau’r gêm ar garlam wrth iddo ddrysu’r tîm arall gyda’i ddoniau gan sgorio goliau gwych. Ond ar ôl y dechrau tanllyd roedd yr ail hanner yn llawer tawelach cyn iddo daro’n ôl yn wych unwaith eto tua’r diwedd, gan orffen yn gryf iawn.

Nid gêm bêl-droed yw llyfr, wrth gwrs, ac nid llyfr am bêl-droed yw Roma – Hen wlad fy nhad gan Dafydd Apolloni. Mae’r stori yn dilyn blwyddyn ym mywyd Dafydd wrth iddo symud o Baris i fyw yn Rhufain, ac wrth iddo hefyd ddod i nabod ei deulu ar ochr ei dad, sydd yn Eidalwr.

Rwy’n dueddol o benderfynu o fewn y deg tudalen gyntaf a ydw i’n mynd i fwynhau llyfr ai peidio, ac mae’r agoriad i’r llyfr yma yn anhygoel. Mae arddull Dafydd o ysgrifennu yn afaelgar iawn ond, yn bwysicach, yn syml i’w ddilyn. A dilyn Dafydd yw hanfod y llyfr.

Mae’n myfyrio ar y natur ddynol gan holi beth sy’n achosi i rai pobl hel eu pac yn gyson tra bod eraill yn gosod gwreiddiau. Crwydryn yw Dafydd – mae’r ysfa i symud yn ei waed ac rydych yn teimlo hyn yn ei ysgrifennu.

Pan fo’n penderfynu gadael Paris ar ddechrau’r llyfr mae’r stori’n symud yn fyrlymus – ac mae hyn yn parhau wrth iddo gyrraedd Rhufain gan geisio setlo mewn dinas anghyfarwydd. Ond eto mae’r llyfr yn arafu ychydig yn y canol wrth iddo ddechrau teimlo’n fwy cartrefol yn yr Eidal. Mae ’na ddisgrifiadau da o fywyd y wlad hon – o hanes a chymeriad y bobl – ond dyw’r bwrlwm ddim yno, fel petai hwnnw wedi diflannu gyda’i ansicrwydd personol.

Dyw hynny ddim yn para’n hir chwaith achos erbyn y diwedd mae Dafydd yn ôl ar ei orau. Efallai mai’r penderfyniad i symud ymlaen eto a gadael Rhufain sy’n sbarduno’r cyffro yn y llyfr wrth i’r cyffro ddychwelyd i’w fywyd.

Mae ’na ddisgrifiadau hyfryd o fywyd ei deulu ac o’r modd mae eu bywydau nhw wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae ganddo hefyd y ddawn o ddadansoddi cymeriad person, ac o ddadansoddi cymeriad y wlad. Erbyn y diwedd teimlwn fy mod wedi dysgu llawer am natur yr Eidalwyr ac am y natur ddynol yn gyffredinol.

Mae’r llyfr yn wych, ac i’r rheiny ohonoch (fel fi) oedd yn disgwyl mwy o bêl-droed, peidiwch poeni – mae ’na ddigon yno, ond ddim gormod, sy’n sicr o gadw pawb yn hapus.

Dylan Ebenezer