This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Mae amryw o'r prif gymeriadau yn y straeon hyn yn gyfarwydd inni, mae hanesion hynod ac annisgwyl amdanyn nhw sydd heb gael llawer o sylw - nes cyhoeddi'r gyfrol hon.
Casgliad o bymtheg o straeon annisgwyl a di-sôn-amdanynt o hanes Cymru wedi'u cyflwyno'n fywiog gan Melfyn Hopkins.
Gwybodaeth Bellach:
Aiff y straeon â ni drwy gyfnodau amrywiol mewn hanes, ac i wahanol ardaloedd yng Nghymru a thu hwnt, a chawn wybod am ddigwyddiadau dwys, difri ac ambell beth doniol na wyddem amdanyn nhw cyn hyn. Dyma’r manion sy’n rhoi golwg arall ar ddigwyddiadau hanesyddol ein gwlad.
Bu’r awdur, Melfyn Hopkins yn pori drwy groniclau, adroddiadau, erthyglau a chofnodion o’r gwahanol gyfnodau i ddarganfod a datblygu’r straeon hyn, a’i obaith yw y bydd y gyfrol yn peri i’r darllenwyr werthfawrogi cyfoeth ein hetifeddiaeth yng Nghymru yn well.
Dyma'r ail gyfrol o gyfres: Llyfrau Hanes Byw
- ISBN: 9781845278144
- Melfyn Hopkins
- Cyhoeddi: Chwefror 2025
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 200 tudalen