This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Weirglodd Wen, Y

  • £8.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845275426
  • Lona Patel
  • Cyhoeddi Mawrth 2016
  • Fformat: clawr meddal, 198 x 130mm

I Magi, mae cael ei gyrru i fferm y Weirglodd Wen i weini yn dair ar ddeg oed yn antur newydd - cyfle i ehangu ei gorwelion, cyfarfod ffrindiau newydd ac ennill arian i\'w roi i\'w mam ar ben tymor.  Ond pan gaiff ei rhybuddio am fab golygus y fferm, a chanfod mai marw fu tynged morwyn fach flaenorol y Weirglodd Wen, tydi ei bywyd newydd ddim yn ymddangos mor gyffrous ...

Bywgraffiad Awdur:

Cafodd Lona Patel ei magu ym Mhen Llŷn, ac ar ôl mynychu Ysgol Botwnnog a\'r Coleg Normal ym Mangor, treuliodd gyfnodau yn dysgu yn Sheffield ac ar Ynys Wyth cyn ymfudo i Montreal ac wedyn i Buffalo, Efrog newydd.  Mae bellach wedi ymddeol ac yn rhannu ei hamser rhwng de-ddwyrain Lloegr a\'r Rhiw yn Llŷn.  Dechreuodd ysgrifennu ar ôl iddi ymddeol, a hon yw ei nofel gyntaf.