This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Wrth fy Nagrau i

  • £8.50
  • £0.00
  • Wrth fy Nagrau i
  • ISBN: 9781845271527
  • Angharad Tomos
  • Cyhoeddi: Hydref 2023
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 232 tudalen

Nofel afaelgar gan awdures brofiadol. Dyma nofel wedi'i lleoli mewn ysbyty meddwl, sy'n mentro i fyd y 'nytars' a'r gwrthodedig, gyda chanlyniadau annisgwyl. Sut mae cymdeithas yn penderfynu pwy sy'n wallgof? Pwy sydd â'r awdurdod i roddi gwragedd mewn ysbyty meddwl? Nofel gredadwy a chyfoethog. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf y 2007. Iselder ar ôl geni plentyn ywr pwnc o dan sylw yn nofel ddiweddaraf Angharad Tomos, y gyntaf ganddi ers 2004. Mae'r prif gymeriad dienw yn treulio cyfnod mewn ward seiciatryddol yn yr ysbyty, ac mae dau linyn i'r naratif: cefndir y salwch, ar berthynas rhwng y menywod sy'n gleifion ar y ward. Yr hyn syn rhoi dimensiwn gwahanol ir stori yw bod y cleifion eisoes yn adnabyddus i ni: o Heledd y cynfeirdd hyd at Bet Tywyll Heno, daw rhai o gymeriadau mwyaf ansad llenyddiaeth Gymraeg yn fyw eto ar ward Rhydderch.

Byddai'n hawdd i nofel am iselder ogordroin fyfïol ddiflas, ond mae Angharad Tomos yn ormod o feistr ar ei chrefft in siomi. Mae'n nofel gignoeth o onest sy'n gwrthod celu'r gwir am y siomedigaethau a ddaeth i ran y prif gymeriad: trawma colli plentyn yn y groth, poen erchyll genedigaeth y babi nesaf, y problemau wrth fwydo o'r fron, y rhwyg yn ei phriodas, ac yn bennaf oll pydew du'r iselder ysbryd.

Os yw'r personol yn wleidyddol, yna dyma nofel fwyaf gwleidyddol Angharad Tomos hyd yma. Dawr prif gymeriad ir casgliad mai gorthrwm gan ddynion syn gyfrifol am roir menywod yn yr ysbyty, ac mae mwy nag adlais o Yma o Hyd yn agwedd y rhai sydd mewn awdurdod tuag at y Gymraeg. Nid gelyniaeth sydd yma ond anwybodaeth nawddoglyd: ... you actually read Welsh novels don't you.., meddai'r seiciatrydd mewn rhyfeddod wrth y prif gymeriad, syn llyfrgellydd. Ar ben hynny, mae'r proffesiwn yn ymddangos yn gwbl ddi-glem yngl?n â sut i drin salwch meddwl, yn rhannu gwahanol gyffuriau yn y gobaith y bydd un math yn gweithio, ond heb y gallu i ddeall dim ar bersonoliaethau na diwylliant y cleifion au cymdeithas.

Yn y diwedd, cyfeillgarwch y menywod ar y ward ac ailgydio yn y pleser o ddarllen syn gwellar claf, a chan mai creadigaethau llenyddol ywr cleifion, maen codi cwestiwn diddorol. Ai cymeriadau go iawn fun gwmni iddi ar y ward neu ffigyraur dychymyg? Llythyr caru at lenyddiaeth ywr bennod olaf, ac at allu rhyfeddol llenyddiaeth i adnabod pobl au derbyn nhw fel maen nhw.

Bu 2007 yn flwyddyn arbennig o safbwynt y nofel Gymraeg, ac mae campwaith diweddaraf Angharad Tomos ymhlith y goreuon heb os. Bydd cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn y flwyddyn nesaf yn ornest a hanner.

Kate Crockett

Gwybodaeth Bellach:

Dyma gyfle prin i fentro drwy ddorau ysbyty o'r fath a threulio amser yng nghwmni rhai o ferched 'gwallgof' llenyddiaeth Gymraeg. Unwaith yr ydym y tu mewn, dechreuwn amau o ddifri beth yw'r driniaeth fwyaf addas iddynt - chwaeroliaeth gynnes y gwragedd neu ddôs o gyffuriau gan 'seiciatrydd o Sais'.

'...mae'r nofel yn gredadwy ac yn rhydd o sentimentaleiddiwch.' - Harri Pritchard Jones 'Mae'r iaith yn gyfoethog a naturiol, ac er tristwch sefyllfa sawl un ceir ambell olygfa abswrd a digon o hiwmor i symud y nofel yn ei blaen.' - Robat Arwyn