This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Y Trên Bwled Olaf o Ninefe

  • £8.50
  • £0.00
  • Y Trên Bwled Olaf o Ninefe
  • ISBN: 9781845278991
  • Daniel Davies
  • Cyhoeddi: Ebrill 2023
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 200 tudalen

Cyfrol o straeon am unigolion sy'n cadw hyd braich oddi wrth eraill; straeon llawn hiwmor tywyll sy'n plethun gelfydd i greu cyfanwaith sy'n taro golwg sinigaidd ar gymdeithas yng ngorllewin Cymru.

Bywgraffiad Awdur:

Daw Daniel Davies o Lanarth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Mhen-bont Rhydybeddau, ger Aberystwyth. Ymysg ei lyfrau mae Allez Les Gallois (2016), Arwyr (2018), Ceiliog Dandi (2020) ac Oes Eos (2021). Enillodd ei gyfrol Tair Rheol Anrhefn Wobr Goffa Daniel Owen yn 2011, a daeth Pelé, Gerson ar Angel (2001), Gwylliaid Glynd?r (2007) ac Yr Eumenides (2017) yn agos i'r brig yn yr un gystadleuaeth. Hon yw ei ddeuddegfed gyfrol.

Gwybodaeth Bellach:

Roedd Ninefe yn ddinas ysgeler, dwyllodrus, ladronllyd a gafodd ei dinistrio gan Dduw yn ei lyfr enwog, y Beibl. Ond heddiw yn ein Ninefe ni ...

Mae gyrrwr tacsi, cyn-weithwraig siop, gweithiwr ffatri gaws, athrawes ysgol gynradd, disgybl ysgol disglair a myfyriwr coleg yn ceisio ymdopi âr bobl ar gymdeithas sydd wedi eu siomi au brifo.

Ond maer chwech yn gweld cyfle i ffoi ou bywydau heriol a rhwystredig a dal ...

Y TRÊN BWLED OLAF O NINEFE

Cylch o straeon Tarantinoaidd syn llawn hiwmor tywyll a dychan bachog. Eurig Salisbury Cymeriadau cofiadwy gan awdur syn ddiamheuol ddawnus. Meg Elis Daeth y gyfrol hon yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2022.