Golwg Sydyn Bargen Loading... Cofion £20.00 - £-20.00 Cofion Rhodri Jones ISBN: 9781845246051 Cyhoeddi: Medi 2024 Fformat: Clawr Caled, 200x164 mm, 108 tudalen Ysgolhaig clasurol ac archeolegydd a gydnabyddid yn gydwladol ac a fu'n lladmerydd egnïol i'w bwnc yng Nghymru oedd John Ellis Jones (1929-2023). Mae ei fab, Rhodri Ellis Jones, yn ffotograffydd sydd wedi arddangos ei waith yn rhai o orielau amlycaf y byd ac yn byw yn Bologna yn yr Eidal ers 2000. Creodd y gyfrol hon i drysori rhai o'i atgofion am ei dad. Gwybodaeth Bellach: Mae yma atgofion teuluol am ei fagwraeth yn Llanrwst ac am ei fam - oedd o Lwcsembwrg yn wreiddiol ac a gafodd ei magu yn yr Almaen Natsïaidd cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Craidd y gyfrol ydi un genhedlaeth yn talu teyrnged i'r fagwraeth a'r gynhysgaeth a gafwyd gan y genhedlaeth flaenorol. Mae yma hefyd ymdriniaeth â galar, ac un o ddulliau Rhodri o gofio yw'r lluniau yn ei gamera.Mae'r gyfrol yn cynnwys dyfyniadau o waith Iwan Llwyd, Steve Eaves, Dylan Thomas, John V. Morris a darnau creadigol gan Angharad Price a Manon Steffan Ros. Dyluniwyd gan Emanuele Lamedica. Default Title - £20.00 Nifer - + Ychwanegu i`r bag siopa This item is a recurring or deferred purchase. By continuing, I agree to the cancellation policy and authorize you to charge my payment method at the prices, frequency and dates listed on this page until my order is fulfilled or I cancel, if permitted. View all details Cofion £20.00