- ISBN: 9781845274306
- Vaughan Hughes
- Cyhoeddi Gorffennaf 2014
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 300 tudalen
Yng ngwres eirias diwydiant y cafodd y Gymru yr ydym yn byw ynddi heddiw ei ffurfio. Diwydiant ddaru greu\'r genedl Gymreig fodern. Yn y Gyfnewidfa yng Nghaerdydd yr oedd pris glo drwy\'r byd i gyd yn cael ei osod ar adeg pan oedd prif lyngesau Ewrop a De America yn cael yn cael eu gyrru gan lo ager de Cymru.
Bywgraffiad Awdur:
Un o Fôn ywr awdur ac yno y mae wedi treulior rhan fwyaf oi oes ar wahân i gyfnod o ddeng mlynedd yn gweithio yng Nghaerdydd fel gohebydd newyddion i gwmni teledu HTV ar y rhaglen newyddion nosweithiol eiconaidd Y Dydd. Yn y cyfnod hwnnw yr ymserchodd gyntaf yn hanes y cymoedd diwydiannol, or dwyrain ir gorllewin. Yn ddiweddarach, fel cyd berchennog Ffilmiaur Bont, braint broffesiynol fwyaf ei fywyd oedd cael darparu a sgriptio llu o gyfresi teledun adrodd hanes Cymru i genedl a amddifadwyd yn ein hysgolion rhag cael gwybod ei hanes ei hun.
Gwybodaeth Bellach:
Yng ngwres eirias diwydiant y cafodd y Gymru yr ydym yn byw ynddi heddiw ei ffurfio. Diwydiant ddaru greur genedl Gymreig fodern. Yn y Gyfnewidfa yng Nghaerdydd yr oedd pris glo drwyr byd i gyd yn cael ei osod ar adeg pan oedd prif lyngesau Ewrop a De America yn cael yn cael eu gyrru gan lo ager de Cymru. Yn wir yn yr adeilad hwnnw, nid yn y Ddinas yn Llundain, yr arwyddwyd y siec gyntaf erioed yng ngwledydd Prydain am filiwn o bunnau. O tua 1880 tan 1914 roedd poblogaeth Cymrun tyfun gyflymach na phoblogaeth pob gwlad arall yn y byd, y tu allan i Ogledd America. Cymru oedd Klondike Ewrop. Yn hollol wahanol i hanes Iwerddon, heidio i Gymru fyddai pobol yn ei wneud. Dynar rheswm pam fod y Gymraeg yn gymaint cryfach hyd heddiw nar Wyddeleg. Mae iaith a gwaith yn gwneud mwy nag odli. Ymhell cyn i Gaerdydd reolir marchnadoedd glo rhyngwladol, Amlwch ym Môn fyddain rheoli pris copr ar farchnadoedd y byd mawr crwn. Yn groes ir canfyddiad arferol, yn y Gogledd, yn ardal Treffynnon, nid yn y De y mae crud y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru. Ac yn Sir Gaernarfon yr oedd y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd. Enillair mwyafrif or Cymry eu bywoliaeth yn gweithio mewn diwydiant pan oedd y mwyafrif or Saeson yn dal i drin y tir. Nid bod diwydiant wedi cynyddu ar draul diwylliant. Roedd gwerin bobol Cymru gydar werin gyntaf yn y byd i fod yn llythrennog.
Yma ceir stori ryfeddol Cymru a fu unwaith yn wirioneddol fawr. Ac a all fod felly eto