Golwg Sydyn Bargen Loading... Wyn a'i Fyd £7.50 £0.00 - £-7.50 ISBN: 9781845271961 Awdur: Wyn Lodwick Cyhoeddi Tachwedd 2009 Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 160 tudalen Hunangofiant y morwr o'r Pwll, Llanelli sydd hefyd yn glarinetydd jazz gyda phrofiadau â chysylltiadau ag arwyr y byd hwnnw yn Efrog Newydd. Mae hon yn llawer mwy na chyfrol ar jazz, mae hi'n gofnod hanesyddol hefyd am Dre'r Sosban pan oedd y lle'n brifddinas y diwydiant tun, cyfnod pan oedd cymdogaeth dda yn rhywbeth mwy nad ystrydeb. Gwybodaeth Bellach: Harry Parry o Gaellepa, Dill Jones o’r Cei Newydd a Wyn Lodwick o’r Pwll. Dyna drindod o offerynwyr a wnaeth roi Cymru ar fap jazz y byd. A nawr mae hunangofiant Wyn yn tynnu’r tri at ei gilydd. Yn Wyn a’i Fyd cawn hanes jazz drwy eiriau’r clarinetydd hynaws, cyfrol sy’n dwyn cyfraniad y tri at ei gilydd. Harry oedd arwr Wyn, Dill oedd ei ffrind agosaf. Mae hon yn llawer mwy na chyfrol ar jazz, mae hi’n gofnod hanesyddol hefyd am Dre’r Sospan pan oedd y lle’n brifddinas y diwydiant tin, cyfnod pan oedd cymdogaeth dda yn rhywbeth mwy nad ystrydeb. Mae hi hefyd yn cofnodi brwydr bersonol Wyn dros gyfiawnder i bobl ddu, o ddyfodiad milwyr Americanaidd duon i Lanelli yn 1942 at orseddi’r Arlywydd du cyntaf yn y Tŷ Gwyn. Default Title - £7.50 Nifer - + Ychwanegu i'r bag siopa View all details Wyn a'i Fyd £7.50