This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

'Anwyl Fam' - Pererindod Drwy'r Rhyfel Mawr

  • £9.95
  • £0.00
  • 'Anwyl Fam' - Pererindod Drwy'r Rhyfel Mawr
  • ISBN: 9781845277475 Ifor ap Glyn
  • Cyhoeddi: Mawrth 2023
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138x12 mm, 200 tudalen

Llythyrau rhyfel bachgen o Lanio, Ceredigion. Bu farw Capten Dafydd Jones yng Nghoed Mametz yn 1916, ond cadwodd Margaret Jones ei fam bob un o'i lythyrau, hyd ddiwedd ei hoes. Mae'n gasgliad unigryw sy'n disgrifio'r broses o'i hyfforddi fel milwr yng Nghymru a Lloegr, cyn troi at realiti'r ymladd yn Ffrainc.

Gwybodaeth Bellach:

Ni chafodd Margaret gyfle i weld y llefydd a ddisgrifiwyd mor fyw gan Dafydd - ond mae'r gyfrol hon yn bererindod ar ei rhan. 'Yr ydym yn byw fel cwningod o dan y ddaear, yn ein Dug-outs fel eu gelwir.'

'Yr ydym ni allan yn awr am ychydig ddiwrnodau tu ôl ir firing line. Gwlad amaethyddol oddiamgylch heb glawdd na ffin yw gweld am filldiroedd. Nid wyf wedi gweld ond un cae hadau er pan gyrhaeddais Ffrainc.'

Mae Ifor ap Glyn wedi ymweld â phob un o'r mannau lle bu Dafydd, wrth geisio ail-greu teithiau olaf y milwr ifanc o Geredigion, a deall ei hanes yn well. Mae'r gyfrol hon yn cyfuno darnau mwya difyr a dadlennol llythyrau Dafydd hefo myfyrdodau Ifor am effaith y Rhyfel Mawr ar Gymru hyd heddiw.

Gellir lawrlwytho nodiadau ar gyfer pob pennod o'r gyfrol hon ac atodiado wefan Gwasg Carreg Gwalch