Fyddech chi byth yn disgwyl cyfrol sy’n cynnwys pethau mor amrywiol â chreadur chwedlonol, protest, ras feiciau, gwrach, prif weithredwr, a’r gallu i siarad ag anifeiliaid. Ond dyna’n union a geir rhwng cloriau’r llyfr hwn, ac mae’r cyfan yn cael ei blethu yn gelfydd o fewn stori antur gyflym sy’n dal sylw o’i dechrau i’w diwedd.
Megis cyfrol arall yr awdur Rebecca Thomas i bobl ifanc – Anturiaethau’r Brenin Arthur – mae’r clawr atyniadol yn denu’r llygad yn syth. Mae’n glawr lliwgar, sy’n darlunio criw o bobl ifanc mewn cwch a chaiac ar y dŵr, gydag un cymeriad ar ei thraed ag uchelseinydd yn ei llaw. Mae cymaint o gwestiynau’n codi o’r darlun trawiadol hwn gan Lleucu Gwenllian nes perswadio unrhyw un bod gwerth agor y cloriau er mwyn cael atebion.
Y peth cyntaf gawn ni wedyn ydy darlun map, sydd eto yn ennyn diddordeb ar unwaith, gyda chath ddu yn y canol, ac enwau megis Pwll-y-Wrach yn dal sylw. Yna, cawn ein hatgoffa o antur flaenorol y criw o ffrindiau ysgol sy’n eu harddegau ac yn gymeriadau yn y stori hon hefyd, a hynny ar ffurf blog gan Joel - sef y cymeriad sy’n mynd ar yr antur fwyaf y tro hwn. Nesaf, cawn gyfres o negeseuon testun ymysg y grŵp o arddegwyr. Mae cyflymder y sgwrs negeseuon nôl a blaen yn tynnu’r darllenydd yn syth mewn i fywyd y stori; ac ar yr un pryd yn taflu goleuni ar wahanol gymeriadau a diddordebau’r criw.
Yn wir, mae pob cymeriad yn unigryw, a chawn ein hatgoffa bod gan bob un ei gryfderau a’i wendidau, a bod hynny yn iawn. Archwilir y thema o gyfeillgarwch yma, gan atgoffa’r darllenydd bod cyfnod yr arddegau yn gallu bod yn un heriol i ffrindiau, wrth i gymeriadau ddatblygu a diddordebau amrywiol ddod i’r fei. Profir hefyd bod modd cael mwy nag un cylch o ffrindiau trwy ddilyn diddordebau amrywiol. Yn ogystal, mae un cymeriad yn ychwanegol i’r criw a welir yn Anturiaethau’r Brenin Arthur. Ei enw yw Gwrhyr - y bachgen newydd - sy’n simsanu’r dyfroedd fymryn ymysg y criw, ond yn profi ei fod yn aelod gwerthfawr cyn daw’r stori i ben.
Cyflwynir pob pennod yn enw cymeriad gwahanol, gan adrodd y stori o safbwynt gweithgarwch y cymeriad hwnnw. Mae’n ddull diddorol o gyflwyno’r antur, ac yn fodd o sicrhau nad yw’r darllenydd yn diflasu ar arddull y naratif. Mae’r ddawn dweud drwyddi draw yn wych - caiff y darllenydd ei lusgo i ganol yr antur nes teimlo’i fod yn rhan o’r stori ac yn gwylio’r hyn sy’n digwydd â’i lygaid ei hun. Mae yma ddisgrifiadau arbennig o sefyllfaoedd a’r amgylchfyd gan olygu gall y darllenydd ddychmygu yn union ym mhle mae’r cymeriadau a’r hyn sydd o’u cwmpas.
Er bod y gyfrol yn ddilyniant i Anturiaethau’r Brenin Arthur, nid oes angen bod wedi darllen y stori honno er mwyn gallu dilyn a mwynhau’r stori hon. Cawn ein hatgoffa fan hyn fan draw o’r antur flaenorol, a’r cyswllt â’r stori honno, ond dyma antur sy’n sefyll ar ei thraed ei hun. Yma, eto, edrychir yn ôl ar hanes a chwedloniaeth Cymru, gan ganolbwyntio y tro hwn ar chwedlau’r Afanc. Mae’r stori yn cylchdroi o amgylch y thema o warchod yr amgylchedd eto hefyd, tra’n cyffwrdd ar themâu amrywiol eraill megis technoleg fodern, cyfeillgarwch, cadw’n heini, a byd ysgol a thyfu fyny. Os ydych chi’n hoff o straeon antur sy’n datblygu’n gyflym ac yn ddychmygus ac ar adegau’n ddoniol, dyma’r darlleniad nesaf perffaith i chi.