
Mae Madog yn y Parti yn llyfr yn y gyfres ‘Amdani’, llyfr i oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Awdur y llyfr yw Branwen Glyn ac mae hi’n diwtor Cymraeg yng Nghaernarfon.
Mae’r llyfr yn dda iawn i ddysgwyr ar ddiwedd lefel Mynediad. Mae’r llyfr yn dweud stori Madog (ci bach) pan mae e’n mynd i barti pen-blwydd 80 oed. Mae e’n gwneud drygioni yn y parti.
Mae’r brawddegau’n fyr a geiriau newydd neu anodd ar waelod y dudalen. Mae’r geiriau yng nghefn y llyfr hefyd.
Llyfr ysgafn yw e a gwnes i fwynhau. Dw i’n meddwl bydd Branwen Glyn yn gallu ysgrifennu mwy o lyfrau am Madog.