This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Adolygiad gan Llyr Gwyn Lewis o Harri Puw a'r Bocs Breuddwydion, Rhian Cadwaladr

Adolygiad gan Llyr Gwyn Lewis o Harri Puw a'r Bocs Breuddwydion, Rhian Cadwaladr

Os ydi’ch tŷ chi unrhyw beth fel ein tŷ ni, mae hi’n gallu bod yn dipyn o dynfa weithiau rhwng y teledu, yr iPad, a’r dudalen! Ond rydan ni’n gwneud yn siŵr bod digon o amser o hyd i ymgolli mewn llyfr da. Dyna braf felly oedd cael dod o hyd i lyfr sy’n trafod yr union dynfa honno rhwng y sgriniau hollbresennol a byd y dychymyg.

 

Mae hon yn stori go swmpus; mae wedi ei hanelu at blant rhwng 7 ac 11 oed ac mi dybiwn i fod yma hen ddigon i gadw darllenwyr hŷn y grŵp hwn yn ddiddig. Darllen efo’n gilydd wnes i a’r mab saith oed, er mwyn ei helpu efo rhai o’r patrymau mwy heriol, ac fe weithiodd hynny’n dda gan ein bod ein dau yn adnabod y sefyllfa gyfarwydd yn y penodau cyntaf! Y brys mawr i adael am yr ysgol, a pha mor hawdd ydi hi – rhy hawdd o lawer! – i gael ein llygad-dynnu gan y sgrins wrth fwyta brecwast a brwsio dannedd. Roedd hyn yn canu cloch i’r ddau ohonom, ond hefyd yn ffordd dda o greu hiwmor a chwerthin. Roedd elfennau eraill digri hefyd, gan gynnwys rhai o ddywediadau Harri fel “Bob-whip-be?”

 

Mae’r lluniau, yr emojis a’r ffont gwahanol sy’n britho’r testun yn help i gynnal diddordeb y darllenydd ifanc, ac mae digon o gyfeirio at sefyllfaoedd cyfarwydd i ennyn gwên smala gan y rhiant yn ogystal. Ar ben hynny roedd yn braf gweld darlun realistig o’r ‘jygl’ teuluol cyfoes wrth i Anna, y fam, frysio adref o’r gwaith erbyn swper a’r tad, Teg, yn dal wrthi yn y ffatri deganau. Pa ryfedd, a phwysau felly yn cynyddu, fod sgrins yn dod yn fwy ac yn fwy o ran o fywydau’n plant ni?

 

Ond buan rydan ni’n neidio o’r sefyllfa deuluol gyfarwydd i fyd dyfeisgar y ffatri deganau. Er y byddwn i wedi hoffi dysgu rhagor am Harri, y cymeriad hoffus a digri, roedd y rhan ganol yng nghwmni Casi a Siencyn yn ddifyr dros ben hefyd, gyda digon o hwyl wrth iddyn nhw fynd am y gorau i ddyfeisio anrheg i Harri a all ailgynnau ei ddychymyg a’r dynnu oddi wrth ei sgrin.

 

Mae yma lwyth o hiwmor drachefn ac ro’n i’n hoff iawn hefyd o’r cardiau syniadau wrth i’r ddau rannu ffrwyth eu dychymyg. Fe wnaethon ni chwerthin a mwynhau ond cawson ni hefyd drafod a meddwl am ein syniadau ein hunain: pa fath o degan fydden ni’n gallu ei ddyfeisio? Dyna sy’n dda am y gyfrol, ydi bod ei thema yn cyd-fynd â’i chyfrwng oherwydd ei bod yn ein hannog i ddefnyddio’n dychymyg a’n dyfeisgarwch.

 

Wna i ddim sbwylio’r hwyl drwy ddweud wrthoch chi beth oedd canlyniad y gystadleuaeth i ddyfeisio tegan newydd i Harri! Ond saff dweud ei fod wrth ei fodd. Hwyrach ein bod ni’n tynnu llinell rhy bendant sy’n mynnu bod sgrins yn ‘dwyn ein dychymyg’ ac mai dim ond heb ein sgriniau y medrwn ni ailafael yn y dychymyg hwnnw, fel mae Nain yn ei haeru ar ddechrau’r stori. Ond er mai yno mae’r stori’n dechrau, mae ambell enghraifft yn y llyfr o sut medr technoleg weithiau, o’i defnyddio’n iawn a heb ei gor-wneud hi, fod yn gyfryngydd da i fyd mwy dyfeisgar. Yn y pen draw mae’r diweddglo yn awgrymu nad y cyfrwng ydi’r peth allweddol – ond mai defnyddio’n dychymyg, sut bynnag y medrwn ni, ydi’r peth pwysig, y peth sy’n ein cadw ni’n fywiog, yn hwyliog — ac yn llawn dychymyg byw, fel y stori hon.v